Gwasanaeth ambiwlans 'wedi dirywio'

  • Cyhoeddwyd
Ambulances outside Morriston Hospital

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos dirywiad ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf ac Awst, er i'r Gweinidog Iechyd alw am welliannau ar frys.

Fis Awst, fe ymatebodd y gwasanaeth i 56.9% o'r galwadau dwysaf o fewn wyth munud - mae hyn llawer yn is na'r targed cenedlaethol o 65%.

Roedd y ffigwr yn waeth na chofnod mis Gorffennaf (58.3%) ac yn sylweddol is na'r perfformiad ym mis Awst 2013 - 61.8%.

Fe alwodd Mark Drakeford am welliannau o fewn y gwasanaeth o fewn tri mis nôl ym mis Mehefin.

Y PRIF FFIGYRAU

Roedd 'na 36,101 o alwadau brys - 5.2% yn llai na Gorffennaf 2014 ond 1.4% yn fwy nag Awst 2013.

O'r rhain, roedd 14,067 yn alwadau Categori A (bywyd mewn perygl mawr) - 5.7% yn llai na Gorffennaf 2014 ond 2.0% yn fwy nag Awst 2013.

Fe ymatebwyd i 56.9% o'r galwadau Categori A o fewn wyth munud - 58.3% oedd y ffigwr ym mis Gorffennaf 2014 a 61.8% yn Awst 2013 - 65% yw'r targed.

Fe ymatebwyd i 62.3% o alwadau Categori A o fewn naw munud. 66.8% o fewn 10 munud, 83.0% o fewn 15 munud, 90.8% o fewn 20 munud a 96.9% o fewn 30 munud.

'Sgandal'

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw safon y gwasanaeth yn "sgandal genedlaethol".

Yn ddiweddar, roedd adroddiad bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan i ysbytai ac mae pryder wedi ei fynegi am ofal a diogelwch cleifon.

Yr wythnos ddiwetha' bu farw gwraig 73 oed pan oedd yn aros mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Treforys ger Abertawe.

Ynghynt y mis hwn fe alwodd crwner am newidiadau cyflym ar ôl marwolaeth dyn oedrannus yn Wrecsam oedd wedi aros am bron chwech awr am ambiwlans.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, mae 'na nifer o newidiadau ar y gweill - y nod yw gwella perfformiad a recriwtio dwsinau o barafeddygon newydd.

Ond mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall na fydd rhai o'r gwelliannau yn digwydd tan y 'Dolig, ac y gallai gymryd tair blynedd cyn bod y gwasanaeth yn derbyn yr holl adnoddau angenrheidiol.

'Siomedig'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, fe ddywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru:

"Mae ffigyrau mis Awst yn siomedig - dydyn nhw ddim ymhle y byddai'r gwasanaeth ambiwlans, y byrddau iechyd, llywodraeth Cymru na'r cyhoeddi am iddyn nhw fod."

Fe ychwanegodd y llefarydd fod cynllun tri-mis Mark Drakeford yn parhau.

"Fe fydd y gwasanaeth yn recriwtio parafeddygon newydd a bydd prif weithredwr dros dro - Tracy Mayhill - yn dechrau ar Hydref 1, wedi i Elwyn Price-Morris orfod gadael oherwydd ei iechyd," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol