Y Cymry Cenfigennus!
- Cyhoeddwyd
Gareth Charles sy'n trafod grym ariannol clybiau Lloegr

Dyw eiddigedd ddim yn emosiwn deniadol iawn ond gall dilynwyr rygbi Cymru ond edrych dros Glawdd Offa a throi bach yn wyrdd.
I ddechrau mae dwy garfan oedd, dim sbel yn ôl, yn casáu ei gilydd a chas perffaith, yn gallu datrys problemau mewn wythnosau nid misoedd neu flynyddoedd fel ni yng Nghymru.
Cytundeb
Mae Undeb Rygbi Lloegr a chlybiau Uwch Gynghrair Aviva wedi dod i gytundeb ar gynyddu'r uchafswm gwario ar gyflogau a digolledu'r clybiau yn ystod Cwpan y Byd flwyddyn nesa. £5.5 miliwn y flwyddyn bydd gan bob clwb i wario i gadw chwaraewyr gorau Lloegr adre a denu'r goreuon o bedwar ban byd. A bydd £7 miliwn yn cael ei rannu rhwng y clybiau pan fydd gemau grŵp Cwpan y Byd yn golygu dim gemau Aviva.
Pwy fydd ar y rhestr siopa clybiau Lloegr felly - Dan Carter, Richie McCaw, Israel Folau, Willie Le Roux? Neu sawl Cymro bydd yn cael eu temtio i ddilyn ôl troed George North, Richard Hibbard a'r lleill?
Denu cefnogwyr
Nawr mae tîm cenedlaethol Ffrainc wedi darganfod i'w cost enfawr beth yw effaith boddi cynghrair genedlaethol gyda sêr tramor ond byddai neb yn ei iawn bwyll yn dadlau na fyddai cael rhai o'r sêr enwais i uchod yn chwarae yng Nghymru yn denu torfeydd sydd mawr eu hangen a hefyd yn brofiad gwych i'r ieuenctid fyddai'n chwarae, ymarfer a dysgu wrth eu hymyl.
Edrychwch nôl at gyfraniad pobl fel Gary Teichman, Xavier Rush; a Justin Marshall, Marty Holah a Jerry Collins yng nghyfnod y "Galacticos" ar y Liberty. Mae'r Gweilch nawr yn fwy o "Practcicos" ond mae'r dewisiadau ymarferol yn yr amgylchiadau economaidd presennol yn gwneud jobyn da ar hyn o bryd.
Y Gweilch yn hedfan
Ar frig y Gynghrair gyda thair buddugoliaeth mas o dair ac yn chwarae rygbi deniadol mae'r Gweilch wedi cael dechrau llawer gwell nag oedd y rhan fwyaf o'r gwybodusion yn ei ddarogan. Ond mae nhw'n sylweddoli bod sawl prawf anoddach i ddod yn enwedig pan ddaw Cwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop gyda'r Ffrancod a'r Saeson a'u harian a'u henwau mawr - ydi mae'r hen genfigen 'na'n mynnu codi'i phen unwaith eto!
Bydd Gareth Charles yn sylwebu Ddydd Sul, Medi 28 ar y Dreigiau v Benetton Treviso yn y PRO 12.
Clwb, S4C, 16:00