Cyngor Casnewydd yn gwrthod cynllun uno
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Robin Drayton
Mae Cyngor Casnewydd wedi gwrthod cynllun i uno'n wirfoddol â Chyngor Sir Fynwy.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr yn erbyn argymhelliad Comisiwn Williams, sydd eisiau cwtogi nifer yr awdurdodau lleol o 22 i 10 neu 12.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod aelodau'n teimlo'n "gryf iawn" bod angen i'r ddinas gadw ei hunaniaeth ei hun.
Ond wnaethon nhw ddim diystyru cyd-weithio gyda chynghorau eraill - petai hynny'n fuddiol i drigolion.
Fe wnaeth holl bleidiau'r cyngor bleidleisio yn erbyn y cynllun, a bydd yr awdurdod nawr yn anfon ymateb ffurfiol at lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- 21 Medi 2014
- 18 Medi 2014
- 9 Medi 2014
- 9 Medi 2014
- 21 Mehefin 2014
- 13 Ebrill 2014
- 31 Ionawr 2014
- 20 Ionawr 2014