Traean ysgolion Cymru angen gwella presenoldeb

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgol

Mae bron i 30% o ysgolion Cymru gafodd eu harolygu ers 2010 wedi cael gorchymyn i wella lefelau presenoldeb.

Ond, mae adroddiad diweddaraf yr arolygwyr addysg, Estyn yn nodi bod presenoldeb wedi gwella yn raddol, o 91% yn 2008/09 i 92.6% yn 2012/13.

Er y gwelliant, mae Estyn yn rhybuddio bod disgyblion a allai fod y fregus dan anfantais ".

Mae disgyblion sy'n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim yn fwy tebygol o fod yn absennol l ac o danberfformio yn y dosbarth.

Mae'r gyfradd absenoldeb i blant sydd ag anghenion arbennig hefyd yn uwch.

Y rhai sy'n absennol yn gyson sy'n gyfrifol am dros chwarter o'r holl absenoldebau mewn ysgolion uwchradd.

Gwella presenoldeb

Disgrifiad o’r llun,
Mae Ann Keane am weld presenoldeb yn gwella

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, ei bod "wedi ei chalonogi" o weld bod presenoldeb yn gwella.

"Ond, rydw i am weld absenoldeb disgyblion yn gostwng ymhellach, yn enwedig cyfradd absenoldeb plant bregus," meddai.

"Mae gwella presenoldeb wedi bod yn argymhelliad mewn bron i draean o adroddiadau arolwg ysgolion uwchradd yn y pedair blynedd diwethaf.

"Os yw disgyblion yn absennol yna gallen nhw ddim dysgu ac maen nhw'n debygol o ddisgyn ar ei hol hi."

Mae Estyn wedi gwneud sawl argymhelliad, gan gynnwys cryfhau cysylltiadau gydag asiantaethau allanol sy'n ceisio bod yn gyswllt gyda theuluoedd.

Daeth Estyn i'r canfyddiad nad oedd tua hanner yr ysgolion yn ymwybodol o wasanaethau o'r fath, na sut i ddod o hyd iddyn nhw.

Un o'r gwasanaethau yma yw cynllun Peak yng Nghasnewydd, sydd newydd ail-agor ar ôl derbyn arian gan y Loteri.

Mae'n rhoi cyfle i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd gydag addysg draddodiadol i wneud amrywiaeth o gyrsiau fel gwaith coed, cynnal a chadw mecanyddol a choginio.

"Mae'r ganolfan yn cael ei weld fel ystafell ddosbarth arall," yn ôl un o swyddogion Ian Pearce.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Peak yn rhoi cyfle i ddisgyblion wneud cyrsiau a dysgu sgiliau ymarferol

"Mae ysgolion lleol yn cyfeirio disgyblion atom ni, rydyn ni'n cofnodi eu presenoldeb ac yn adrodd yn ôl i'r ysgol.

"Pan maen nhw'n dod atom ni mae'r ysgolion yn dweud eu bod yn bresennol tua 20-30% o'r amser. Erbyn iddyn nhw adael maen nhw 70-80% ac rydyn ni wedi cael rhai oedd i fyny at 100% dros y tymhorau olaf."

Ychwanegodd: "Does dim disgwyl i lawer o'r disgyblion sy'n dod yma gyflawni unrhyw beth yn yr ysgol.

"Ond ar ôl bod gyda ni mae cryn dipyn yn mynd ymlaen i goleg."