70% am newid system gyllido Cymru, fformiwla Barnett
- Cyhoeddwyd

Mae bron tri- chwarter etholwyr Cymru yn meddwl bod angen newid sut mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu, yn ôl pôl i BBC Cymru.
Mae'r system - Fformiwla Barnett - gafodd ei chreu yn y 1970au, yn wynebu beirniadaeth yn sgil Refferendwm Annibyniaeth yr Alban ac addewid Llafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol na fydd y fformiwla i'r Alban yn newid.
Er bod y system - sydd wedi ei seilio ar ffigyrau poblogaeth - yn cynhyrchu lefelau uwch o wariant cyhoeddus y pen i'r Alban, mae honiadau bod Cymru ar ei cholled.
Casglodd adroddiad trawsbleidiol yn 2009 fod Cymru ar ei cholled o £300m y flwyddyn.
70%
Yn ôl y pôl, roedd 71% yn cytuno bod angen newidiadau "oherwydd bod Cymru ar ei cholled o arian fydd cael ei roi i'r Alban, sy'n wlad fwy llwyddiannus".
Dim ond 15% ddywedodd na ddylai'r system - gafodd ei henwi ar ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, Joel Barnett - newid.
Ddydd Mercher dywedodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, y byddai'r blaid yn edrych ar ffyrdd o ddelio gyda'r broblem gyllido petawn nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf. Ond fe wrthododd y syniad o ddileu'r system yn llwyr.
"Bydd fformiwla Barnett yn aros ond byddwn yn sicr o edrych ar y problemau penodol mae Cymru yn eu hwynebu," meddai.
"Mae'n ymrwymiad sy'n rhan o'n hadolygiad gwariant."
Ychwanegu
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi awgrymu bod angen newid system gyllido Cymru yn sgil Refferendwm yr Alban.
Awgrym y Democratiaid Rhyddfrydol yw ychwanegu at fformiwla Barnett i lenwi unrhyw fwlch ond mae Plaid Cymru o blaid system hollol newydd.
Holodd ICM Research sampl ar hap o 1,006 o oedolion 18+ ledled Cymru ar y ffôn ar 19-22 Medi 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2014