Pennaeth ffatri o Aberystwyth gerbron llys
- Cyhoeddwyd

Mae Mr Raw-Rees yn gwadu cyhuddiadau o gamlabelu cig
Mae pennaeth ffatri gig Farmbox Meats yn Llandre, Ceredigion, ac aelod o staff wedi gwadu cam-labelu cig gafr wedi ymchwiliad yn sgil sgandal y cig ceffyl y flwyddyn ddiwethaf.
Yn Llys y Goron Southwark yn Llundain gwadodd Dafydd Raw-Rees o Aberystwyth a'i weithiwr Colin Patterson 19 cyhuddiad yr un o werthu cig gafr oedd wedi ei labelu'n gig ceffyl.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth nes bydd achos yn cael ei gynnal.
Mae BBC Cymru'n deall bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.