Marwolaeth: Eitemau ar goll

  • Cyhoeddwyd
John Garfield GriffithsFfynhonnell y llun, heddlu'r de

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth John Garfield Griffiths, 66, yn apelio am wybodaeth allai fod o help i'r ymchwiliad.

Cafodd corff Mr Griffiths ei ddarganfod ar Stryd Herbert ym Mhontardawe am Medi 1.

Mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un sydd heb ei hesbonio ac maen nhw eisiau siarad ag unrhyw un oedd wedi gweld Mr Griffiths, neu yn gwybod lle'r oedd o wedi bod ar ddiwrnod ei farwolaeth neu'r diwrnod cynt.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Peter Doyle: "Rydym wedi gallu sefydlu bod eitemau oedd yn berchen i Mr Griffiths ar goll ac rydym yn awyddus i'w darganfod.

"Mae'r rhain yn cynnwys waled, set o allweddi a llyfr nodiadau bach coch.

"Mi fyddwn i'n ymbil ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, dim ots pa mor ddibwys mae'n ymddangos, i gysylltu â ni."

Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio swyddfa heddlu Sandfields ar 01639 889103.