'Dim modd osgoi cyfres o daro a ffoi,' medd adroddiad

Matthew Tvrdon Image copyright South wales police
Image caption Y ddedfryd oedd ei gadw am gyfnod amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae adolygiad achos dyn â sgitsoffrenia paranoiaidd wedi casglu nad oedd modd osgoi cyfres o daro a ffoi laddodd ddynes ac anafu eraill yng Nghaerdydd yn 2012.

Ond dywedodd yr adolygiad fod nifer o fethiannau yn ei ofal.

Fe darodd Matthew Trvdon, 33 oed, nifer o bobl yng Nghaerdydd gyda'i fan ym mis Hydref 2012.

Bu farw Karina Menzies, 31 oed, pan gafodd ei tharo y tu allan i orsaf dân Trelái. Cafodd 20 eu hanafu.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dweud nad oedd Trvdon yn cymryd ei foddion adeg y troseddau ac nad oedd meddygon wedi monitro ei gyflwr yn ddigonol.

Mae'r adroddiad wedi argymell:

  • Rhannu cynlluniau ysgrifenedig rhwng asiantaethau rhag ofn i'r claf waethygu;
  • Gwella'r cyfathrebu rhwng y timau iechyd meddwl a meddygon teulu;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn dynodi doctoriaid mewn meddygfeydd ar gyfer cleifion;
  • Monitro meddyginiaeth cleifion;
  • Adolygu adnoddau iechyd meddwl cymunedol y bwrdd iechyd;
  • Gwella cysylltiad rhwng y bwrdd iechyd a'r teuluoedd.

Dywedodd yr adroddiad bod Trvdon yn seicotig ac, yn aml, yn anfodlon cymryd ei foddion.

Nododd ei fod wedi cael "digwyddiad difrifol" yn 2007 ond ei fod wedi cael ei drin yn "llwyddiannus" yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Roedd yn glir pan gafodd Ms Menzies ei lladd, meddai'r adroddiad, fod iechyd meddwl Trvdon wedi "dirywio yn sylweddol".

Dywedodd: "Mae cofnodion Trvdon o'i gyswllt gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl yn dangos bod ail bwl o salwch yn debygol petai yn stopio cymryd ei foddion."

Cydlynydd

Yn ôl yr adroddiad, byddai Trvdon wedi elwa ar gael cydlynydd iechyd i adeiladu perthynas well gydag e, a monitro a oedd yn cymryd ei foddion.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Iechyd Four Elms wedi dweud eu bod yn gweithredu argymhellion yr adroddiad.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Adam Cairns: "Er bod yr adolygiad yn cydnabod ei fod yn anodd rhagweld sut y gallai'r drasiedi yma fod wedi ei hosgoi, rydyn ni yn derbyn, wrth edrych yn ôl, bod rhai pethau y gallai pob asiantaeth oedd yn rhan o'r achos fod wedi eu gwneud yn well."

Ar ôl gweld yr adroddiad ddydd Iau dywedodd chwaer Ms Menzies, Samantha, fod ymateb asiantaethau yn annigonol.

"Dwi'n meddwl bod lot fawr o anghysondebau a dwi'n meddwl fod y gwasanaethau iechyd meddwl wedi ei fethu oherwydd fe gollon ni ein chwaer," meddai.

Image caption Bu farw Karina Menzies ar ôl cael ei tharo yn Nhrelái

"Mae'n gwneud i mi deimlo nad oedd rhaid i hyn (y drasiedi) ddigwydd a dweud y gwir. Dwi wir yn credu os byddai wedi cael ei fonitro, os byddai wedi cymryd ei foddion, dwi wir yn credu y byddai fy chwaer yn fyw heddiw."

Ychwanegodd ei bod yn credu bod y ffaith nad oedd wedi cymryd ei foddion yn arwyddocâol.

"Dwi'n sicr yn teimlo ei fod wedi cael effaith. Roedd sawl achos lle nad oedd yn casglu ei bresgripsiwn. Un flwyddyn wnaeth e ddim casglu unrhywun allan o'r 12.

"... os oedd yn cael ei fonitro, ... ni fyddai hyn wedi digwydd. Pam na chafodd ei fonitro? Dyna dwi eisiau ei wybod."

Dywedodd nad oedd yn teimlo bod y ddedfryd yn gyfiawn gan na fyddai'n dod â'i chwaer yn ôl.

Y ddedfryd oedd ei gadw am gyfnod amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Image copyright Wales News Service

Straeon perthnasol