BBC Cymru Fyw

Y Bois yn y Bar

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC

Published
Weithiau mae pethau'n newid heb i ddyn sylweddoli hynny. Y dyddiau hyn mae'n gwbl amhosib dychmygu'r Blaid Lafur yn cynnal cynhadledd i ddewis ymgeisydd seneddol mewn clwb sy'n gwahardd menywod rhag yfed yn y bar. Eto i gyd dyna'n union ddigwyddodd yn ôl yn y flwyddyn 2000 pan ddewiswyd Dai Havard i olynu Ted Rowlands fel yr ymgeisydd Llafur ym Merthyr.
Rwy'n ddiolchgar i Tomos Livingstone am fy atgoffa o'r stori ac mae'n werth ei darllen yn ei chyfanrwydd.
Nid yr agwedd at fenywod yw'r unig beth sydd wedi newid ers troad y ganrif. Mae 'na gyfeiriad yn y stori at y ffaith bod mwyafrif Ted Rowlands yn 1997 yn 26,000. 4,056 oedd mwyafrif Dai Havard yn 2010 gyda'r Democrat Rhyddfrydol Amy Kitcher, sy'n aelod o Blaid Cymru erbyn hyn, yn yr ail safle.
Dyw Merthyr ddim yn unigryw. Ers 1997 mae gafael Llafur ar ei chadarnleoedd traddodiadol wedi llacio tra bod y blaid ar y cyfan wedi cryfhau ei sefyllfa yn yr etholaethau ymylol traddodiadol.
Newid cymdeithasol sydd wedi esgor ar y newid gwleidyddol wrth gwrs. Dyw byd o gymudo a chanolfannau galw ddim yn magu'r un fath o deyrngarwch plaid a byd o ffatrïoedd a phyllau glo. Llafur sy'n debyg o ennill y cadarnleoedd traddodiadol o hyd ond mae'r dyddiau lle'r oedd bod modd gwneud hynny heb dipyn o waith caib a rhaw yn prysur ddiflannu - yn enwedig mewn etholiadau Cynulliad.
Mae pobl Llafur yn deall hynny'n iawn ac mewn sawl un o'r cadarnleoedd, Pontypridd, dyweder neu'r Rhondda, mae peirianwaith y blaid mewn llawer gwell cyflwr nac oedd e ddegawd yn ôl.
Dyw hynny ddim yn wir ym mhobman a phan ddaw etholiad y Cynulliad yn 2016 mae'n ddigon posib y bydd ambell i gadarnle yn ddigon simsan - yn enwedig os ydy Ed Miliband wedi llwyddo i gyrraedd Downing Street.
Gyda Dai Havard yn cyhoeddi ei ymddeoliad y cwestiwn cyntaf sy'n wynebu'r Blaid Lafur yw p'un ai i orfodi rhestr fer menywod yn unig ar Blaid Lafur Merthyr ai peidio.
Ydy rheolau'r clwb yna yn Aberfan wedi newid, tybed?