Buddsoddi £20 miliwn yng Ngholeg Menai yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Grŵp Llandrillo Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygu a buddsoddi yng nghampws Coleg Menai yn Llangefni.

Y nod yw ehangu'r campws presennol er mwyn datblygu Canolfan Technoleg ac Ynni arbenigol fydd yn gwasanaethu Ynys Môn a Gwynedd, ynghyd â chreu Unedau Deor Busnes i gefnogi'r economi ehangach.

Eisoes mae gan Goleg Menai Ganolfan Ynni, Ganolfan Adeiladu a Chanolfan Hyfforddi Peirannau Trwm yn Llangefni, a bydd y datblygiad hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Beirianneg newydd ar gyfer y Coleg.

Dywedodd Pennaeth y Coleg, y Dr Ian J Rees: "Rydym yn gweithio'n agos gydag ein partneriaid o fewn y Prosiect Ynys Ynni i baratoi pobl Ynys Môn a Gwynedd ar gyfer cyfleoedd swyddi yn y dyfodol fydd yn ymwneud ag ynni.

"Rydym yn awyddus i adeiladu ar y cydweithio presennol ac i sicrhau bod gennym ni gyfleusterau ymysg y gorau yn y byd yn Llangefni er mwyn i ni allu darparu pobl leol gyda'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyfleoedd swyddi yn y dyfodol."

Ychwanegodd: "Mae ein cyhoeddiad heddiw yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda phobl leol a'r economi leol ac yn amlinellu sut y byddwn ni'n datblygu dros y blynyddoedd nesaf."

Byddai ehangu'r campws yn cynyddu'r nifer o fyfyrwyr ar y safle ac yn golygu buddsoddi tua £20 miliwn yn y safle.

Dywedodd Mr Glyn Jones, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae gennym ni Strategaeth Stadau clir ac uchelgeisiol ar gyfer y tri choleg o fewn y Grŵp, a bydd y cynlluniau yma'n cyd-fynd â'r cyfleusterau peirianneg ac adeiladu yn ein campysau yn Llandrillo yn Rhos a Dolgellau.

"Mae'r cynlluniau ar gyfer Llangefni yn uchelgeisiol a chyffrous, a byddwn yn gweithio gydag ein partneriaid er mwyn canfod yr arian i'n galluogi i gwblhau ein huchelgais er mwyn i ni allu parhau i ymateb i anghenion y cyhoedd a'r economi."