Awdurdod tân angen £3 miliwn yn ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Injan dân

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru angen £3 miliwn yn ychwanegol dros y bum mlynedd nesaf gan rybuddio "y byddai'n rhaid i unrhyw arbedion pellach i'w cyllideb ddod drwy leihau'r gwasanaethau rheng flaen."

Mae aelodau o'r Awdurdod wedi clywed y byddai colli tua chwarter o ddiffoddwyr tân yn "bosibilrwydd realistig" yn y dyfodol, os nad ydyn nhw'n derbyn arian ychwanegol.

Mae cyllideb refeniw'r gwasanaeth wedi cael ei rewi ers 2011 ac mae arbedion o £2.4 miliwn eisoes wedi eu gwneud.

Cafodd tri o "bosibiliadau realistig", y gall sicrhau'r arbedion angenrheidiol, eu cyflwyno i'r Gweithgor Cynllunio Gwelliannau yn gynharach eleni.

'Lleihad sylweddol'

Mewn adroddiad i'r Awdurdod, dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Dawn Docx: "I grynhoi, byddai parhau i rewi'r gyllideb tan ddiwedd y ddegawd hon yn golygu lleihad sylweddol, a hwnnw'n gyfystyr â chau 9 o 44 o orsafoedd tân, cael gwared ar 17 o 54 o injans tân a cholli 228 o 799 o ddiffoddwyr tân."

Er mwyn ceisio osgoi lleihad o'r fath mae'r Awdurdod yn bwriadu cynyddu ei chyllideb refeniw o £3 miliwn rhwng 2016 a 2020.

Mae'r chwe awdurdod lleol sy'n ariannu'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn derbyn gwybodaeth gan benaethiaid y gwasanaeth tân ar hyn o bryd.

Bydd dogfen ymgynghori yn cael ei lansio mis nesaf.

Sesiynau gwybodaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Ar hyn o bryd rydym yn cynnal sesiynau gwybodaeth gyda phob un o'r cynghorau ynglŷn â sut i baratoi ein cynlluniau i wella'r Gwasanaeth Tân ac Achub - mae rhai eisoes wedi eu cynnal ac eraill eto i ddod, cyn i'r ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau.

"Bydd rhai sesiynau yn agored i'r cyhoedd a bydd eraill i brif swyddogion y cynghorau yn unig, gan ddibynnu ar farn y cyngor penodol.

"Yna bydd gan gynghorau'r cyfle i ymateb fel rhan o'r ymgynghoriad. Yn dilyn hynny bydd yr holl ymatebion yn cael eu trafod gan yr Awdurdod llawn er mwyn penderfynu a fydd y cynllun gwelliannau drafft yn cael ei dderbyn fel y mae."