Angen newid i annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM

  • Cyhoeddwyd
PeiriannegFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Un maes y mae angen denu mwy o bobl ifanc iddo yn ôl yr adroddiad yw peirianneg

Mae angen newid mewn meddylfryd tuag at Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) gan fod yn gadarnhaol a niwtral o ran rhyw, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i'r ddarpariaeth o ran pynciau STEM mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Daeth y pwyllgor i'r canlyniad bod llawer o bobl ifanc yn parhau i beidio ag astudio pynciau STEM oherwydd problemau sylfaenol a grëwyd gan ystrydebau negyddol ynghylch y pynciau.

Mae Aelodau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddsoddiad mewn cynlluniau i ennyn brwdfrydedd plant am y pynciau, ac yn eu paratoi ar gyfer yr economi wybodaeth fodern.

Argymhellion

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad, sy'n cynnwys:

  • Parhau i ddatblygu cynllun cydlynol ar gyfer hyrwyddo, monitro a gwerthuso prosiectau cyfoethogi STEM;
  • Blaenoriaethu ei buddsoddiad mewn ymyriadau cynnar sy'n ennyn brwdfrydedd plant am bynciau STEM ac yn eu hysbrydoli drwy gydol eu haddysg;
  • Ymateb yn gyflym i argymhellion adroddiad yr adolygiad TGCh i newid cyfrifiadureg yn y cwricwlwm fel y gall Cymru gynhyrchu'r technolegwyr a fydd eu hangen ar y diwydiant cyfrifiadurol yn y dyfodol;
  • Targedu ymyriadau o flwyddyn 7 ymlaen, fel bod myfyrwyr yn cael cyngor gyrfa cywir a diduedd cyn y mae'n rhaid iddyn nhw wneud dewisiadau pwnc hollbwysig;
  • Datblygu disgwyliad clir o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r sector addysg uwch ei gyflawni o ran yr agenda STEM;
  • Annog merched i gyrraedd eu potensial llawn mewn STEM.

'Fwyfwy perthnasol'

Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn sail i'r economi wybodaeth, ac mae sgiliau digidol yn dod yn fwyfwy perthnasol i'n bywydau bob dydd.

"Felly, mae'r agenda STEM yn hollbwysig i Gymru, a bydd hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.

"Mae angen i Gymru anelu at ragoriaeth mewn STEM drwy'r broses gyfan - o'r cwricwlwm a'r cymwysterau a gynigir mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion, drwy gyngor gyrfaoedd a phrofiad gwaith ac i mewn i gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy."

Ychwanegodd: "Mae llawer o'r problemau sylfaenol yn deillio o'r ffaith bod y canfyddiad cyffredin o'r disgyblaethau STEM yn parhau i fod yn eithaf gwael. Mae'r ystrydebau diwylliannol o wyddonwyr 'geeky' a 'phynciau i fechgyn' yn fyw ac iach, ac, yn anffodus, maent yn cael eu hymgorffori o oedran cynnar.

Dywedodd bod angen "newid chwyldroadol" diwylliant ysgolion, teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol.

"Bydd gan y cyfryngau ran fawr i chwarae yn hynny o beth, ond mae gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i'w chwarae hefyd."