Cyhuddo bachgen o lofruddio dyn yn y Coed Duon
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn dweud bod bachgen 16 oed o'r Coed Duon wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn.
Bu farw Michael Lee Emmett, 31 oed ac oedd hefyd o'r dref, ar ôl cael ei drywanu.
Mae'r bachgen wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 29 Medi.
Cafodd Mr Emmett ei anafu mewn ymosodiad yn y Coed Duon ar 1 Awst.
Bu farw o'i anafiadau ar 2 Medi.