Cartref preswyl wedi methu cyrraedd y safon disgwyliedig
- Cyhoeddwyd

Mae cartref nyrsio yng Nglannau Dyfrdwy wedi cael dirwy am dorri cyfreithiau diogelwch ar ôl i ddynes 88 mlwydd oed ddioddef llosgiadau i 9% o'i chorff pan gafodd ei gollwng i faddon o ddŵr poeth.
Bu farw Beatrice 'Betty' Morgan, oedd yn byw yng Nghartref Nyrsio Greencroft yn Aston, Queensferry, o gymhlethdodau a achoswyd gan ei hanafiadau fis ar ôl y digwyddiad, ar 29 Awst, 2012.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi bod yn ymchwilio i'r mater, ac mean nhw bellach wedi erlyn perchennog y cartref, Greencroft Care Ltd, (cwmni sydd bellach wedi ei ddiddymu), yn Llys Ynadon yr Wyddgrug .
Clywodd y llys fod Ms Morgan, nad oedd yn gallu cerdded, wedi cael ei gostwng i mewn i'r bath gan ddefnyddio teclyn codi ac iddi weiddi pan gyffyrddodd y dŵr. Er iddi gael ei chodi'n gyflym o'r bath, dioddefodd losgiadau i 9% o'i chorff ac aethpwyd ag Ms Morgan i Uned Llosgiadau Whiston lle bu farw yn ddiweddarach.
Methiant cynnal a chadw
Canfu archwiliadau'r GID nad oedd tymheredd y dŵr poeth wedi ei reoli'n gywir er mwyn ei atal rhag mynd yn fwy na 44°C. Er bod falfiau cymysgu wedi eu gosod i reoli'r tymheredd, nid oedden nhw wedi cael eu cynnal yn iawn ac felly nid oedd y lefel cywir sy'n ofynnol mewn cartrefi nyrsio wedi ei gyrraedd.
Er bod y staff wedi cael cyfarwyddyd i wirio tymheredd y dŵr gyda thermomedr cyn baddonau, nid oedd unrhyw archwiliadau wedi eu gwneud gan y rheolwyr i sicrhau bod hyn yn digwydd. Bu methiant ar ran y cwmni i asesu'r risgiau sy'n ymwneud â'r defnydd o ddŵr poeth ac i ddarparu digon o hyfforddiant, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth i staff.
Plediodd Greencroft Care Cyf o Larch Avenue, Aston, yn euog i dorri Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a chafodd y cwmni ddirwy o £5,000. Dywedodd y barnwr yn y gwrandawiad os na fuasai'r cwmni wedi cael ei ddiddymu, yna byddai wedi anfon yr achos i Lys y Goron, lle byddai'r ddirwy wedi bod o leiaf £100,000.
Yn siarad ar ôl y gwrandawiad dywedodd un o Arolygwyr y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Katharine Walker:
"Gallai digwyddiad trasig fel hyn fod wedi cael ei osgoi yn hawdd, pe bai Greencroft wedi gweld y canllawiau ar ymolchi pobl, ac mae'r canllawiau ar gael yn rhwydd. Methodd y cwmni gyrraedd y safonau a ddisgwylir.
"Dioddefodd Ms Morgan lawer iawn o boen yn ddiangen cyn ei marwolaeth. Rhaid i gartrefi nyrsio a sefydliadau eraill sy'n gofalu am bobl sy'n agored i niwed sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynnal y math iawn o gyfarpar ar dapiau bath poeth a goruchwylio eu staff yn briodol."