Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Fel yr hola Dylan Iorwerth yn Golwg - lle mae dechrau?
Oes, mae digon o ymateb i refferendwm yr Alban yn y wasg a'r blogiau.
Mae Vaughan Roderick wedi mynd yn ôl at nofel wnaeth argraff arno pan oedd yn blentyn o'r enw "The Day the Queen Flew to Scotland for the Grouse Shooting", oedd yn dangos pa mor gibddall oedd y dosbarth gwleidyddol yn San Steffan i deimladau a buddiannau pobl y tu hwnt i'w cylch cyfyng.
Os oedd hynny'n wir yn 1969 pan gyhoeddwyd y llyfr medd Vaughan ar ei flog, mae'n debyg ei bod hi hyd yn oed yn fwy cywir heddiw, ac mae'n holi pa gasgliad arall sydd yna, ar ôl gweld pa mor sydyn y trodd yr ymateb i refferendwm yr Alban yn ddadl ynghylch rheolau sefydlog Tŷ'r Cyffredin?
Yn ôl blog Ifan Morgan Jones mae'r refferendwm wedi agor pennod newydd yn hanes y Deyrnas Unedig, ac mae'n bwysig iawn bod Cymru yn sicrhau nad troednodyn yn unig fydd ei chyfraniad at y bennod honno.
Mae Dylan Iorwerth yn cytuno: mae'r perygl o gael ein hymylu, yn waeth na'r ofn gwreiddiol. Does dim undod barn o ran cyfeiriad, meddai, ac mae galwad deg Carwyn Jones am Gomisiwn Cyfansoddiadol wedi ei adael ar ôl yn llwch yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl Dylan, mi fyddai'n ddiddorol iawn gweld beth fyddai canlyniad y refferendwm petai'n cael ei gynnal heddiw, ar ôl datblygiadau'r wythnos ddiwethaf.
Yn un peth, fel y dywed Blog Menai, mae aelodaeth yr SNP wedi cynyddu'n sylweddol ers dydd Iau. Ymddengys bod rhan o'r cynnydd hwnnw yn dod yn uniongyrchol o aelodaeth y Blaid Lafur, ac mae'r blogiwr yn rhagweld y bydd Llafur yn colli seddi yn yr Alban y flwyddyn nesaf, ac y byddan nhw'n cael eu hunain ymhell y tu ôl i'r SNP yn etholiad Holyrood yn 2016.
A chytuna Ifan Morgan Jones mai'r Blaid Lafur fydd yn dioddef yn fwyaf llym o ganlyniad i'r artaith sydd o flaen y prif bleidiau - dydyn nhw ddim yn awyddus i weld Lloegr yn torri'n rhydd o ddylanwad Aelodau Seneddol yr Alban a Chymru oherwydd gallai hynny olygu y gallen nhw ennill y mwyaf o seddi ar draws y Deyrnas Unedig ond bod mewn lleiafrif yn Lloegr.
Sut allai Ed Miliband, neu un o'i olynwyr, honni bod yn Brif Weinidog ac yntau'n methu deddfu ar gyfer 83% o'r boblogaeth?
Ac o edrych i'r dyfodol, mae'r Hogyn o Rachub yn hyderus y daw eto refferendwm i'r Alban, ac os dim arall bydd y newidiadau demograffig yn gwneud hwnnw'n haws ei ennill.
Y rheswm am hynny yw'r ffordd y rhannodd y bleidlais.
Ys dywed Glyn Adda ar ei flog, hanner cant a phedair oed oedd y cefn deuddwr, medd y dadansoddwyr; yr ochr isaf, IE, yr ochr uchaf, NA. Y cywion iau mor gryf o blaid ac oedd taid a nain yn erbyn.
A chydio yn yr hen ddihareb "Yr hen a ŵyr a'r ifanc a dybia" mae Cris Dafis yn Golwg.
Wn i ddim wir, meddai - er bod llawer o'n diarhebion yn llawn doethineb a geirwiredd, go brin fod hon ymhlith y rhai mwyaf treiddgar.
O'r hyn a welodd Cris ar y teledu yn ystod yr ymgyrch, roedd y bobl ifanc a holwyd wedi dwys ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn ac wedi dod i gasgliad annibynnol ar sail tystiolaeth, tra bo rhesymeg y to hŷn yn aml yn arwynebol.
Mater o amser yw hi felly, yn ôl Angharad Tomos yn yr Herald. Bedair blynedd yn ôl, dywed, ryw ugain y cant oedd o blaid annibyniaeth. Bellach mae hynny wedi mwy na dyblu.
Beth bynnag a ddaw, rhaid cytuno ag Angharad fod llwyfan gwleidyddiaeth yr Alban yn ystod y blynyddoedd nesaf am fod yn andros o ddifyr.