Cocên ar gwch: Arestio pump

  • Cyhoeddwyd
CwchFfynhonnell y llun, Irish Defence Forces
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y cwch ei ddal gan long o lynges Iwerddon, LÉ Niamh, tua 300 milltir oddi ar arfordir Iwerddon

Mae pump o ddynion wedi cael eu harestio ar ôl i dunnell o gocên, gwerth hyd at £100m, gael ei ddarganfod ar gwch oddi ar arfordir de orllewin Gweriniaeth Iwerddon ddydd Mawrth.

Yn ôl ffynonellau diogelwch, roedd y cyflenwad ar ei ffordd i arfordir gogledd Cymru.

Mae'r heddlu yn holi tri dyn yn Cork, a chafodd pedwerydd dyn ei arestio yn Swydd Efrog. Mae o wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ddydd Gwener, dywedodd yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol fod pumed dyn wedi ei arestio ac yn cael ei holi yn Swydd Efrog.

Cadarnhaodd Lluoedd Amddiffyn Iwerddon eu bod wedi cipio cyflenwad sylweddol o'r hyn sy'n cael ei amau i fod yn gyffur a reolir. Ond dywedodd llefarydd na allen nhw wneud sylw eto ynghylch faint o'r cyffur na'i fath

Mae'n debyg fod llwyth y llong wedi dod o Dde America, tra bod y cwch wedi dechrau ei thaith o'r Caribî.