Cynnydd mewn marwolaethau ar ffyrdd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau ar ffyrdd Cymru wedi cynyddu i dros 100.
Yn ôl ffigyrau'r Adran Drafnidiaeth mae'r nifer sydd wedi marw wedi cynyddu o 93 yn 2012 i 111 yn 2013.
Ond mae nifer y bobl sydd wedi eu hanafu ar ffyrdd Cymru wedi gostwng o 8,565 i 8,335 yn yr un cyfnod.
Yn ardal Heddlu De Cymru oedd y nifer uchaf o farwolaethau - 32 - gydag ardal Heddlu Gogledd Cymru yn ail gyda 29 o farwolaethau.
Ar gyfer 2013 mae'r adroddiad yn dangos mai Rhondda Cynon Taf a Sir Gaerfyrddin oedd gyda'r nifer uchaf o farwolaethau - 11 yr un.
Roedd 10 o farwolaethau ar ffyrdd Sir Fynwy, ond dim ond un farwolaeth ar y ffyrdd yng Nghaerdydd a Blaenau Gwent.
Mae'r ystadegau yn dangos bod chwe marwolaeth yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint, dwy farwolaeth yng Ngheredigion a naw ym Mhowys.