Ymosod ar IS: Barn Aelodau Seneddol o Gymru
- Cyhoeddwyd

Yn ystod y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin ynglŷn ag ymosodiadau milwrol o'r awyr ar y grŵp terfysgol IS yn Irac, mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, wedi dweud ei fod yn cefnogi'r cynnig o blaid gweithredu, ond ei fod yn parhau ag "alergedd" i ymyrryd yn y Dwyrain Canol yn dilyn y rhyfel yn Irac yn 2003.
Brynhawn ddydd Gwener pleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid cynnal ymosodiadau milwrol o'r awyr ar Irac, gyda 524 o Aelodau Seneddol yn pleidleisio o blaid gweithredu o'r fath, a 43 yn pleidleisio yn erbyn hynny.
Dywedodd Aelod Seneddol Castell-nedd, Mr Hain, ei fod yn cefnogi agwedd ofalus Mr Miliband ynglŷn ag ymestyn gweithredu milwrol i Syria, ond aeth ymlaen i ddweud: "Y gwir plaen ydi nad ydi gadael i ISIL ddianc dros ffin anweledig mewn i Syria, ffin y maen nhw'n credu y maen nhw'n ei rheoli, yn ateb i'r broblem.
"Yng nghabinet 2003 mi wnes i gefnogi Tony Blair dros ymosod ar Irac a hynny oherwydd fy mod i'n credu bod gan Saddam arfau o ddinistr mawr. Roeddwn i'n anghywir, doedd ganddo ddim arfau o'r fath, aethom i ryfel ar sail celwydd ac roedd canlyniad hynny'n drychinebus.
"Mae hynny wedi rhoi alergedd i mi wneud unrhyw beth tebyg yn yr ardal, yn enwedig unrhyw beth sy'n ymdebygu i ymyrraeth gan gowbois mewn ffilm 'Western'."
Er gwaethaf ei bryderon dywedodd ei fod yn cefnogi ymosodiadau milwrol o'r awyr yn Irac, ond bod angen dod i ryw fath o ddealltwriaeth â llywodraeth Syria.
Ychwanegodd Mr Hain: "Pe bai'n cael ei drin yn sensitif, gall hwn fod yn gyfle, ac rydw i'n annog y Prif Weinidog i gymryd y cyfle hwnnw, i gychwyn proses heddwch go iawn yn Syria a lleihau rhaniadau dwfn, hir-dymor ymysg Mwslemiaid yn y Dwyrain Canol."
Dim yn ddigon
Dywedodd Ann Clwyd, Aelod Seneddol Cwm Cynon, cyn gennad arbennig ar hawliau dynol yn Irac, ei bod yn cefnogi'r cynnig, ond nad oedd hi'n credu y byddai ymosodiadau o'r awyr yn ddigon i drechu'r terfysgwyr.
"Mae'n debyg nad ydi byddin Irac yn barod i wneud hyn, heb gael eu hyfforddi i wneud hyn, a gallwch chi ddim dibynnu ar y Peshmerga... grŵp bychan o filwyr sydd wedi bod yn amddiffyn eu mamwlad."
"Gallen nhw ddim fod yn gyfrifol am amddiffyn Irac gyfan - mae hynny'n gwbl hurt."
Dysgu o'r gorffennol
Mae Plaid Cymru eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi'r cynnig.
Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams: "Rydym yn credu y bydd ymosodiadau o'r awyr bron yn sicr o achosi marwolaethau pobl gyffredin - fel sydd wedi digwydd ym mhob ymyrraeth filwrol Gorllewinol diweddar yn yr ardal ac Afghanistan - a radicaleiddio pobl ifanc a hawdd eu dylanwadu.
"Mae hi'n destun pryder bod y Prif Weinidog wedi dweud na ddylwn ni adael i 'gamgymeriadau'r gorffennol' ddod yn esgus ar gyfer gwneud dim.
"Ond mae rhyfel Irac yn parhau i daflu ei gysgod yn hir - dylwn ni fod yn dysgu o'r gorffennol, yn hytrach na'i anghofio."
Y Prif Weinidog David Cameron siaradodd gyntaf yn y drafodaeth ddydd Gwener gan ddweud fod gan y DU "ddyletswydd" i wrthsefyll bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd.: Ychwanegodd y byddai ymuno yn yr ymgyrch o'r awyr yn gyfreithiol.
Roedd arweinwyr y tair prif blaid Brydeinig wedi dweud eu bod yn cefnogi ymgyrch o'r awyr.
Serch hynny fe wnaeth tri o aelodau Llafur Cymru wrthwynebu'r cynnig, sef Paul Flynn, Gorllewin Casnewydd, Martin Caton, Gwyr a Sian James, Dwyrain Abertawe.