Cyrch cocên: Cymryd cwch o Bwllheli
- Cyhoeddwyd

Mae cwch wedi cael ei gymryd o Farina Pwllheli gan swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Prydeinig wedi cyrch cocên ar gwch gannoedd o filltiroedd o arfordir Iwerddon.
Yn ôl swyddogion yr asiantaeth, mae'r gwch oedd yn y marina wedi cael ei symud i leoliad arall ac mae'n cael ei archwilio.
Ddydd Mawrth roedd awdurdodau Iwerddon, Ffrainc a Feneswela wedi mynd ar fwrdd cwch o'r enw Makayabella a darganfod tunnell o gocên oedd werth £100 miliwn.
Roedd y Makayabella ryw 300 milltir i'r de-orllewin o arfordir Iwerddon ar y pryd.
Arestio pump
Mae pump o ddynion wedi cael eu harestio gan yr heddlu.
Cafodd tri eu harestio ar y cwch gan swyddogion llynges Iwerddon, dyn 70 oed, dyn 35 oed a dyn 28 oed o orllewin Sir Efrog.
Maen nhw'n cael ei holi yn Corc lle mae gan yr heddlu'r hawl i'w cadw am saith diwrnod.
Cafodd dau ddyn arall - 47 a 43 oed - eu harestio yng ngorllewin Sir Efrog. Mae'r dyn 43 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae'r awdurdodau yn awyddus i siarad ag un dyn arall y maen nhw'n ei amau allai fod yn rhan o'r ymgais i smyglo cyffuriau.
Yn ôl ffynonellau o'r lluoedd diogelwch, roedd y cwch wedi dod yr holl ffordd o Feneswela a nod y cynllwyn oedd glanio gyda'i llwyth anghyfreithlon ar arfordir gogledd Cymru.
Dywedodd Hank Cole o'r Asiantaeth Troseddu: "Roedd ein hymchwiliwr yn rhan o ymdrech i ddarganfod a dilyn y cwch dros Fôr yr Iwerydd o'r Caribî, gan arwain at iddo gael ei ddal oddi ar arfordir Iwerddon. Roedd hwn yn gyrch mawr ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
"Diolch i'r cydweithio rhwng yr asiantaeth a'n cyd-weithwyr yn Iwerddon, Ffrainc a Feneswela, rydym wedi llwyddo i atal y cocên yma rhag cyrraedd ein strydoedd ac achosi niwed i'n cymunedau."
Straeon perthnasol
- 26 Medi 2014