Ewrop 5-3 UDA

  • Cyhoeddwyd
Jamie Donaldson and Lee Westwood at the Ryder CupFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Jamie Donaldson a Lee Westwood yn dathlu

Mae Ewrop ar y blaen o 5-3 ar ôl diwedd chwarae'r diwrnod cyntaf yng Nghwpan Ryder.

Curodd y Cymro Jamie Donaldson a Lee Westwood, Jim Furyk a Matt Kuchar o ddau dwll yng nghystadleuaeth y pedair pêl.

Hwn oedd ymddangosiad cytna y Cymro yn y gystadleuaeth.

Roedd yna fuddugoliaeth hefyd i Justin Rose a Henrik Stenson 2&1.

Ar un adeg roedd Ewrop ar ei ôl hol hi o ddau a hanner i un a hanner.

Llwyddodd Rory McIlroy a Sergio Garcia i ddod yn gyfartal, a hynny ar ôl bod ar ôl o ddwy, gyda dau dwll i'w chwarae.