Caerdydd 2 Sheffield Wednesday 1
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd wedi ennill yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers mis Awst.
Yn yr hanner cyntaf roedd hi'n ymddangos fel perfformiad sigledig arall gan Gaerdydd - wrth i ddiffyg hyder yr adar gleision ddod i'r amlwg am gyfnodau unwaith eto.
Cafodd Aron Gunnarson gyfle da i sgorio i Gaerdydd yn gynnar yn y gêm ond roedd Caerdydd yn ffodus iawn i beidio bod ar ei hol hi, wrth i Wednesday fwynhau digon o feddiant.
Ond fe aeth tîm y brifddinas ar y blaen chwe munud cyn yr egwyl, peniad gan Sean Morrison ar ôl chwarae da gan Peter Whittingham.
Fe ddaeth dathliadau Caerdydd i ben yn gynnar yn yr ail hanner. Llithriad gan Morrison, arwr yr hanner cyntaf, wrth iddo daro'r bel i gefn ei rwyd ei hun.
Ond fe achubwyd y sefyllfa gan Anthony Pilkington chwarter awr yn ddiweddarach wrth iddo daro ergyd isel i'r gol.
Roedd Russell Slade, darpar reolwr newydd Caerdydd, yno i weld ei dim newydd. Mae disgwyl iddo gael ei benodi i'r swydd yn ystod y dyddiau nesaf.