Casnewydd 4 Wimbledon 1
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd yn dathlu buddugoliaeth yn erbyn AFC Wimbledon ar ol i Joe Piggot sgorio ddwywaith gan sicrhau buddugoliaeth gymharol hawdd i'r tim o Went.
Mae'r canlyniad yn golygu fod County yn codi i'r 15fed safle yn yr ail adran.
Roedd Casnewydd ar y blaen ar yr egwyl, diolch i beniad Ismail Yakubu. Yna yn yr ail hanner fe ddaeth dwy gol Piggot ac un arall gan Aaron O'Connor.