Ceidwadwyr: Datganolwch drethi i helpu Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai Cymru "gynnal chwyldro trethiant isel" yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies.
Mewn araith ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd y blaid yn Birmingham bydd Mr Davies yn dadlau y byddai datganoli grymoedd trethi i Gymru "o fudd i bob teulu yng Nghymru."
Disgwylir iddo ddweud bod newid cyfansoddiadol pellach i Gymru yn gyfle i gryfhau economi Cymru.
Yn ôl Mr Davies " Mae economi trethiant isel yn fwy cystadleuol, yn fwy deniadol i gyflogwyr a busnesau bach.
"Mae angen ffocws diflino ar dyfu economi Cymru sydd yn medru cynnal ei hun, sydd ddim yn rhy ddibynnol ar fuddsoddiad tramor, ac yna yn gofyn am gymorth trwy'r amser.
"Gyda datganoli treth stamp, treth tirlenwi, trethi busnes ac efallai treth incwm, mae gennym y cyfle i ddatblygu diwylliant menter yng Nghymru".
Addawodd Mr Davies y byddai'r Ceidwadwyr yn dileu'r dreth stamp ar dai rhatach na £250,00 ac yn gostwng trethi busnes.
Yn ôl y Ceidwadwyr byddai mesurau trethiant isel yn symbylu'r gwasanaethau cyhoeddus maes o law wrth i'r economi greu mwy o gyfoeth yng Nghymru.
Y Deyrnas Unedig: "Angen Deffro"
Wrth i effaith refferendwm yr Alban gan ei drafod yn y gynhadledd dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig bod "angen deffro" er mwyn sicrhau dyfodol y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Jonathan Evans "Fe ddylai pawb - ar draws y Deyrnas Unedig - gael datrysiad sydd yn cadw'r Deyrnas Unedig yn unedig.
"Mae'n gyfnod diddorol iawn i'r wlad. Mae'r setliad cyfansoddiadol presennol yn anghytbwys ac fe all hynny arwain at raniad yn y pen draw. Mae angen i ni ddeffro i'r drafodaeth yna."
David Jones a UKIP
Mae David Jones AS, cyn Ysgrifennydd Cymru, wedi datgelu iddo wrthod cais gan UKIP i ymuno a'r blaid. Mewn neges ar ei gyfrif twitter fe ddywedodd Mr Jones "fe ddywedes i wrth UKIP fynd am heic".