Ail agor llethr sgïo Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae llethr Sgïo Plas y Brenin yn agored unwaith ato - ar ôl i ymgyrchwyr sicrhau ei dyfodol.
Mewn lleoliad trawiadol ar lan llyn Mymbyr, bu llethr sgïo Plas y Brenin yng Nghapel Curig yn adnodd poblogaidd i sgiwyr Cymru.
Bu'n rhaid cau'r llethr am gyfnod ar ôl i bryderon gynyddu am gyflwr y llethr, ac roedd ofnau mawr nad oedd cyllid ar gael i'w adnewyddu.
Mae canolfan gweithgareddau awyr agored Plas y Brenin, sydd yn eiddo i Sport England, wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan glwb Sgïo Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Sgïo Prydain a Snowsport Cymru.
Dywedodd Sport England eu bod, gyda chymorth eu partneriaid, wedi buddsoddi £50,000 yno, a'u gobaith nawr yw denu rhagor o sgiwyr yno i ymarfer eu sgiliau.
Dywedodd Martin Doyle o'r Ymddiriedolaeth Hyfforddi Mynydd eu bod yn bwriadu "gweithio yn galed gyda chlwb sgïo'r gogledd er mwyn denu mwy o ddiddordeb ac rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus. "
Pan gaeodd y llethr yn 2012 fe feddiannwyd y safle gan brotestwyr am gyfnod.
Ar y pryd fe ddywedodd Sport England bod y llethr artiffisial wedi cyrraedd diwedd ei hoes ac fe fyddai'n costio dros £600,000 i'w gynnal a chadw.
Fe wrthodwyd hynny gan y protestwyr fu'n hawlio y gellid trwsio'r llethr am lai na £60,000.