Cartref newydd bad achub Porthdinllaen

RNLI Image copyright RNLI
Image caption John D Spicer, bad achub newydd Porthdinllaen

Mae dathliadau yn cael eu cynnal ar draeth Porthdinllaen wrth i gartref newydd y bad achub yno gael ei agor yn swyddogol.

Bydd yr orsaf newydd yn gartref i fad achub John D Spicer, cwch gwerth £2.7 miliwn a enwyd ar ôl un o gefnogwyr pennaf yr RNLI.

Mae'r bad achub newydd wedi bod yno ers 2012 ac ers hynny mae wedi ateb 32 o alwadau argyfwng.

Ymhlith y rhai i arwain gweithgareddau dydd Sul mae'r cyflwynydd BBC, David Dimbleby, ac Esgob Bangor, Andrew John.

Yn ogystal ag agor y ganolfan newydd fe fydd y John D Spicer yn cael ei enwi yn swyddogol. Hefyd byd teyrngedau yn cael eu cyflwyno i'r gwirfoddolwyr sydd wedi cynorthwyo gwaith y bad achub yno dros gyfnod o 150 o flynyddoedd.

Dywedodd rheolwr y bad achub Ken Fitzpartick "Mae'r seremoni heddiw yn achlysur hanesyddol i'n cymunedau arfordirol - mae'n gyfle i ni ddiolch i'n cefnogwyr a'u teuluoedd trwy ddangos y bad achub newydd a'r ffordd mae'n medru achub bywydau.

"Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig - ac yn ddechrau pennod newydd i'r bad achub ym Mhorthinllaen".

Image copyright RNLI
Image caption Gorsaf newydd bad achub Porthdinllaen

'