Cymru i gael grymoedd a refferendwm newydd
- Published
Mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru wedi datgelu y gallai Llywodraeth Cymru gael grymoedd newydd i amrywio trethi.
Mewn araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham fe ddywedodd Mr Crabb y byddai yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael y rhyddid i amrywio cyfraddau treth incwm ar wahân i gyfyngiadau'r Trysorlys.
Ond fe fyddai angen cael sêl bendith pobl Cymru mewn refferendwm cyn caniatáu'r pwerau newydd, meddai.
Mae'r datblygiad yn cael ei ystyried fel newid polisi sylweddol gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Stephen Crabb y byddai yn cynnig gwelliant i Fesur Cymru cyn iddo gwblhau ei daith yn San Steffan er mwyn gweithredu'r newid polisi.
Mae'r newid polisi yn dilyn beirniadaeth gan Lywodraeth Cymru a fu'n dadlau nad oedd y grymoedd trethi a amlinellwyd gan Fesur Cymru yn ymarferol, oherwydd yr hyn oedd yn cael ei alw'n y .
Fe gyhoeddodd Mr Crabb hefyd y byddai yn cyflwyno newidiadau er mwyn cryfhau a symleiddio y berthynas ddeddfwriaethol rhwng Bae Caerdydd a San Steffan.
Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol yn 2015 dywedodd Mr Crabb y byddai yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn amlinellu yn glir pa feysydd deddfwriaeth fyddai yn cael eu cadw yn San Steffan, a pha feysydd fydd yn cael eu datganoli i Gaerdydd.
Yn ôl Mr Crabb mae'r mesurau yma yn gamau pwysig sydd yn cryfhau datganoli yng Nghymru.
Dywedodd Mr Crabb Fe fydd ein datganoli trethi yn dileu gwleidyddiaeth begera yng Nghymru.
"Bydd cyfnod newydd o lywodraeth gyfrifol yn dechrau yng Nghymru.
"Dyma fydd datganoli gyda phwrpas. Gyda'r grymoedd newydd fe fydd cyfrifoldebau newydd, craffu newydd, a fydd hyn ddim yn teimlo'n gyfforddus i weinidogion Cymru."
"Rydw i eisiau gweld map datganoli newydd yn ystod y cyfnod seneddol newydd - fydd yn rhoi fframwaith clir fydd yn gweithio i bobl Cymru."
Disgwylir i Fesur Cymru ddychwelyd i Dy'r Arglwyddi ym mis Hydref, ac mae disgwyl i welliannau'r llywodraeth i'r mesur gael eu cyflwyno bryd hynny.
Mae'r bwriad i gynnal refferendwm yn ddadleuol - mae nifer o Aelodau Seneddol wedi dadlau nad oes angen pleidlais arall i weithredu datganoli pellach.
Fe ddywedodd Mr Crabb fodd bynnag y dylai pobl Cymru gael yr hawl i benderfynu ynglŷn â derbyn hawliau i amrywio trethi ai peidio.
Yn ol Ysgrifennydd Cymru byddai peidio cael refferendwm yn "anghyfrifol".
Ymateb Plaid Cymru
Dywedodd Llŷr Gruffydd AC; "Rwy'n falch bod y Ceidwadwyr wedi gweld synnwyr ar fater rhyddhau'r cyswllt ar amrywio trethi. Mae esiampl yr Alban wedi dangos nad yw hyn yn gweithio.
"Dim ond un mater yw hyn mewn cyfres o faterion sydd angen eu trafod. Tra bo trafodaethau yn parhau ynglŷn â chryfhau senedd yr Alban mae'n annerbyniol caniatáu i Gymru aros ar yr ymylon, yn dadlau dros friwsion o fwrdd San Steffan."