Wylfa Newydd: Dechrau ymgynghori
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni niwclear Horizon wedi dechrau cyfnod o ymgynghori ar eu cynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Wylfa, Ynys Môn.
Yn ôl y cwmni, y bwriad yw cynhyrchu ynni yno yn ystod hanner cyntaf y 2020au ac mae disgwyl i'r cynllun greu tua 1,000 o swyddi.
Dywedodd Alan Raymant, o gwmni Horizon: "Mae hwn yn gam mawr ymlaen i brosiect a fydd yn cyfrannu at ffyniant gogledd Cymru am flynyddoedd lawer.
"Nid yn unig fydd yn cynnig cyfleoedd gwaith uniongyrchol, bydd hefyd yn meithrin ac yn cefnogi cadwyn gyflenwi leol sylweddol ac yn ysbrydoli pobl ifanc y rhanbarth."
"Rydyn ni'n awyddus iawn bod pawb yn cymryd rhan yn ein hymgynghoriad ac yn rhoi eu barn i ni am ein cynigion.
"Rhwng rŵan a dechrau mis Rhagfyr byddwn ni ar hyd a lled yr ardal yn siarad â phobl ar draws y rhanbarth a bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddatblygu ein cynigion ymhellach."
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus mewn lleoliadau ar draws yr ardal yn ogystal â gwybodaeth ar-lein
Bydd yr arddangosfa yn gyfle i weld gweld y cynlluniau mewn manylder.
Fe fydd atomfa bresennol Wylfa, ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1971, yn cau cyn diwedd 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014