Canlyniad Rygbi Pro 12
- Cyhoeddwyd

Pwynt bonws gwerthfawr i'r Dreigiau
Dreigiau 33-15 Treviso
Mae'r Dreigiau yn codi i'r wythfed safle yn y gynghrair ar ôl ennill y tro cyntaf y tymor hwn.
Sgoriodd y Dreigiau ddau gais yn gynnar ymhob hanner. Hallam Amos yn croesi ddwywaith yn y 12 munud cyntaf, cyn i Ashley Smith a Jonathan Evans sicrhau pwynt bonws yn yr ail hanner.
Roedd yna ddau gais i'r tîm o'r Eidal, sydd wedi colli pob un o'u gemau y tymor hwn.