Corff dyn yn y dŵr ger Aberdaugleddau
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi dod o hyn i gorff dyn yn aber afon Cleddau yn Sir Benfro.
Yn ôl yr heddlu does dim eglurhad i'r digwyddiad hyd yma, ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Fe dderbyniodd ceidwad y glannau alwad ar ôl i ddyn mewn kayak weld y corff yn y dŵr.
Fe alwyd bad achub Angle ac un o gychod yr heddlu i'r safle.