Comisiwn: Cyhoeddi adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Christopher ParryFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Christopher Parry saethu ei wraig yn Awst 2013

Fe fydd casgliadau ymchwiliad annibynnol i lofruddiaeth dynes yng Nghasnewydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun.

Cafodd Caroline Parry ei saethu gan ei gŵr Christopher Parry yn Awst 2013

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) wedi bod yn ymchwilio i'r cyswllt yr oedd swyddogion yr heddlu wedi ei gael gyda Christopher Parry cyn y saethu.

Bydd y comisiwn ymchwilio i sut wnaeth yr heddlu ymdrin â thri digwyddiad rhwng y cwpl cyn y llofruddiaeth.

Byddant hefyd yn ymchwilio i amodau trwydded oedd yn caniatáu i Parry fod â dryll yn ei feddiant.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Christopher Parry wedi gwadu llofruddio ei wraig, Caroline

Fe wnaeth Parry, 49 oed o Gwmbrân, saethu ei wraig yn farw y tu allan i'w chartref yng Nghasnewydd ym mis Awst y llynedd.

Roedd Parry, oedd wedi gwahanu o'i wraig, wedi bod yn aros y tu allan i'r tŷ yn Seabreeze Avenue.

Ar ôl saethu ei wraig, fe saethodd ei hun yn ei ben, gan achosi anafiadau difrifol.

Clywodd y llys fod Parry yn hoff o reoli pobl ac nad oedd yn gallu derbyn bod ei wraig wedi gorffen eu perthynas.

Roedd Parry yn gwadu cyhuddiad o lofruddio ond wedi cyfaddef dynladdiad.

Cyhoeddodd y comisiwn y byddant yn ymchwilio i'r amgylchiadau ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Heddlu Gwent wedi eu galw i dri digwyddiad yn ymwneud â'r ddau rhwng Mai a Gorffennaf 2013.

Bydd y comisiwn yn ystyried sut y cafodd asesiadau risg eu gwneud, ac a wnaeth y llu wneud cysylltiad rhwng y digwyddiadau.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried pa gamau gafodd eu cymryd o ran y drwydded i gadw dryll yn dilyn y digwyddiadau.