BBC Cymru Fyw

Jonny Williams yn ôl ar fenthyg i Ipswich

Published
image copyrightGetty Images
Mae chwaraewr canol cae Cymru a Crystal Palace, Jonny Williams, wedi dychwelyd ar fenthyg i Ipswich am 93 diwrnod.
Roedd Williams, 20, ar fenthyg iddyn nhw ddiwedd y tymor diwetha' hefyd, gan sgorio unwaith mewn 13 o gemau, gyda'r clwb yn agos i hawlio lle yn y gemau ail-gyfle.
Mae Williams wedi chwarae bedair gwaith i Crystal Palace y tymor hwn - ddwywaith fel eilydd mewn gemau Uwchgynghrair.
Fe fydd yng ngharfan Ipswich ar gyfer eu gêm yn erbyn Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth ddydd Mawrth.
Dywedodd Mick McCarthy, rheolwr Ipswich, a hawliodd eu pedwaredd buddugoliaeth o'r fron yn erbyn Rotheram dros y penwythnos: "Dwi'n meddwl mai un o'r pethau wrth iddo benderfynu ble roedd o am fynd oedd a fyddai o'n chwarae, achos 'da ni'n chwarae'n dda.
"Os 'da chi'n meddwl y bydden ni'n arwyddo Jonny Williams a gadael iddo eistedd ar y fainc - dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd.
"Roedd pawb yn ei wylio'r llynedd ac mi fydd yn rhoi hwb i bawb."