Gorsaf dân Y Porth i gau
- Cyhoeddwyd

Bydd gorsaf dân Y Porth, yn Y Rhondda, yn cau wrth i Awdurdod Tân De Cymru ad-drefnu'r gwasanaeth.
Ond penderfynodd yr Awdurdod y bydd dwy injan yn parhau i weithio o orsaf Pontypridd.
Fe wnaeth aelodau'r Awdurdod gwrdd ddydd Llun i drafod y ddarpariaeth yn ardal Rhondda Cynon Taf yn wyneb toriadau.
Roedd yr aelodau yn wynebu'r dewis o gau gorsaf Y Porth, neu leihau nifer y criwiau ym Mhontypridd o ddau i un.
Yn ôl adroddiad, byddai'r naill ddewis neu'r llall yn golygu cynnydd yn y risg i'r cyhoedd o un farwolaeth ychwanegol ym mhob 100 mlynedd.
Fe wnaeth yr Awdurdod bleidleisio 17-3 o blaid cau gorsaf Y Porth, a chadw dwy injan ym Mhontypridd.
Mae gwrthwynebiad wedi bod yn Y Porth a Phontypridd i unrhyw doriadau, a chafodd protest ei chynnal y tu allan i'r cyfarfod ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân yn Llantrisant fore Llun.
Dywedodd Undeb y Frigâd Dân y byddan nhw'n gweithio gydag unrhyw un fydd yn cael ei effeithio gan y penderfyniad, er mwyn ystyried eu camau nesa'.
Dywedodd Ysgrifennydd De Cymru o'r undeb Alex Psaila: "Rwy'n siomedig nad yw'r penderfyniad yn cael ei graffu ymhellach, fel ei bod o'n gallu cael ei gadarnhau o bersbectif cyngor lleol.
"Y criwiau yw fy mhrif bryder. Mae yna gyfarfod gyda'r rheolwyr heno, a cawn weld pa opsiynau sy'n cael eu rhoi. "