Angen i Heddlu Gwent ymateb yn well i achosion stelcian
- Cyhoeddwyd

Mae angen i Heddlu Gwent wella'r modd maen nhw'n ymateb i achosion o stelcian ac aflonyddu, yn ôl adroddiad gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).
Roedd y corff wedi bod yn edrych ar y ffordd y gwnaeth yr heddlu weithredu cyn llofruddiaeth Caroline Parry yng Nghasnewydd.
Cafodd y ddynes 49 oed ei saethu yn farw gan ei gŵr, Christopher Parry, ym mis Awst 2013.
Mae Heddlu Gwent wedi derbyn casgliadau'r adroddiad ac yn dweud bod gwersi wedi'u dysgu.
Dywed yr adroddiad fod Mrs Parry wedi cysylltu â Heddlu Gwent ddwywaith yn y misoedd cyn ei llofruddiaeth, yn gofyn am gymorth gan ddweud ei bod yn bryderus am ymddygiad ei gŵr wedi iddyn nhw wahanu.
Cafodd Parry ei garcharu am 26 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf, wedi i reithgor yn Llys y Goron Casnewydd ei ganfod yn euog o lofruddio ei wraig.
Trwydded gwn
Dywed adroddiad yr IPCC fod swyddogion yr heddlu hefyd wedi methu a chyfeirio cwynion i'r corff sy'n gyfrifol am roi trwyddedau gwn.
Fe allai cyfeiriad o'r fath, meddai'r adroddiad, fod wedi arwain at Parry yn colli ei drwydded cyn dyddiad y llofruddiaeth.
Dywedodd Jan Williams ar ran y Comisiwn: "Roedd hon yn llofruddiaeth filain a chreulon wnaeth achosi loes i deulu a ffrindiau Caroline.
"Fe wnaeth ein hymchwiliad ddarganfod gwendidau yn y modd y gwnaeth Heddlu Gwent ddelio gyda'r achos yma, ac nid dyma'r tro cyntaf i'r Comisiwn ofyn cwestiynau am y modd mae'r llu yn ymateb i achosion o drais yn y cartref.
"Mae'r llu wedi rhoi mwy o flaenoriaeth i achosion trais yn y cartref, ond rwy'n annog prif swyddogion unwaith yn rhagor i sicrhau fod camau yn cael eu cymryd i wella perfformiad."
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ganfod:
- nad oedd gan swyddogion wnaeth ymateb i ddigwyddiadau rhwng y cwpl wybodaeth berthnasol - dylai asesiad risg fod wedi dangos fod yna risg uchel i Caroline Parry;
- dylai mwy o sylw fod wedi ei roi i ymddygiad Parry a'i dueddiad i reoli pobl;
- er bod Mr Parry wedi bod â thrwydded gwn am rai blynyddoedd, fe ddylai nodiadau am ei ymddygiad, a digwyddiadau penodol ym mis Mai 2013, fod wedi sicrhau fod 'na asesiad o'r drwydded.
'Angen gwella mwy'
Wrth gydymdeimlo â theulu Caroline Parry, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent eu bod yn derbyn casgliadau'r adroddiad a'u bod eisoes wedi gweithredu ar yr argymhellion.
Meddai: "Mae Heddlu Gwent yn parhau i weithio'n galed i wella ein hymateb i ddigwyddiadau'n ymwneud â stelcian ac aflonyddu, ond rydym yn derbyn fod angen rhagor o welliannau.
"Tynnwyd sylw at dri digwyddiad pan roedd yr heddlu mewn cysylltiad â naill ai Caroline Parry neu Christopher Parry. Ond hyd yn oed petai 'na ymateb gwahanol wedi bod, mae'r IPCC yn nodi na fyddai hyn o reidrwydd wedi atal marwolaeth drasig Caroline Parry.
"Mae pob un o argymhellion yr adroddiad wedi'u cyflawni. Bydd hyn yn helpu'r wybodaeth sydd gan ein swyddogion wrth ymateb i achosion o stelcian ac aflonyddu, a'r ymateb i'r achosion hyn.
"Bydd yr argymhellion yn sicrhau fod 'na asesiadau risg priodol yn cael eu gwneud a'u rhannu, a hefyd bod 'na ystyriaeth briodol o unigolion sydd â thrwydded i gael gwn.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i wella'r gwasanaeth i rai sydd wedi diodde' yn sgil trais yn y cartre', stelcian neu aflonyddu. Mae ein swyddogion yn ymchwilio i rai achosion cymhleth iawn ac yn gwneud penderfyniadau anodd yn ddyddiol.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i wneud popeth posib i leihau'r risg a'r niwed sy'n gysylltiedig â rhai o'r achosion hyn.
"Ble mae 'na achosion yn codi rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau gwirfoddol ac erlynwyr i sicrhau fod y rhai sy' wedi diodde' yn cael cymaint o gefnogaeth â phosib tra bod y rheiny sy' wedi cyflawni'r troseddau'n sefyll eu prawf. Mae Heddlu Gwent wedi dysgu gwersi o'r amgylchiadau trasig hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2014