Dinbych i godi am wastraff gardd

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff gardd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cynlluniau i godi tâl am gasglu gwastraff gardd.

Mi fydd pobl sydd eisiau parhau i dderbyn y gwasanaeth yn gorfod talu £24 y flwyddyn o fis Ebrill 2015 ymlaen.

Yn ôl y cyngor mi fydd rhyw 35,000 o gartrefi yn cael eu heffeithio.

Dywedodd y cynghorydd David Smith: "Mae nifer o gynghorau eraill ar hyd a lled Cymru eisoes yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

"Yma yn Ninbych mi wnaethon ni ymatal cyn hired ac oedd yn bosibl ond mae toriadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf mor fawr ein bod ni'n rhedeg allan o opsiynau."