Ar y cwrs 'da Jamie
- Cyhoeddwyd

Roedd Elin James Jones yn ddigon ffodus i fod ar gwrs golff Gleneagles i weld y Cymro Jamie Donaldson yn sicrhau bod tîm golff Ewrop yn cadw eu dwylo ar Gwpan Ryder:
Rheolau!
Un peth sy'n amhosib ei anwybyddu ym myd golff yw pwysigrwydd rheolau... yr etiquette - mae 'na drefn benodol, bwysig i bethe.
Nid mater o gael tocyn papur yn eich llaw oedd hwn, o na. Mi oedd gynnon ni docynnau rownd ein gyddfau gyda chod arbennig, ynghyd â breichled a thocyn arbennig ar gyfer y car. Rhaid oedd cofrestru'r tocynnau o flaen llaw. Roedd 'na deimlad o bwysigrwydd, o statws, felly, i'r digwyddiad o'r cychwyn cynta'.
'Steddfod y golffwyr
Rhaid oedd parcio'r car ryw hanner awr i ffwrdd o'r gwesty, man oedd yn debycach i faes parcio'r 'steddfod na chwrs golff. Mi roedd 'na dri lleoliad parcio i gyd - un i'r dwyrain, un i'r gorllewin ac i'r gogledd. Roedd 'na drefniadau trwyadl i sicrhau llif llwyddiannus i'r degau o filoedd o gefnogwyr rhyngwladol oedd ar bigau'r drain i ddilyn y bêl fach wen.
Roedd hi fel 'steddfod y golffwyr, â'r stiwardiaid yn eu clogynnau melyn yn eich arwain i'ch lle. Bysys yn mynd, un wrth un, drwy lonydd cul Sir Perth tuag at Gleneagles. Dychmygwch ddegau o fysys deulawr yn ymlwybro drwy Bowys yn llawn golffwyr o bedwar ban byd - rhyw olygfa felly oedd hi.
'Trydanol'
Dyma ni'n cyrraedd wedyn, a'r parchusrwydd yn troi'n gyffro trydanol - y cwrs wedi'i drawsnewid yn amffitheatr. Mannau eistedd fetrau uwchben y cwrs yn llawn lliwiau glas a melyn Ewrop a glas a choch America. Heb sôn am y nifer mwya' o gapiau pêl-fâs i mi weld mewn un man, erioed! Mi oedd 'na bentrefi arbennig i'r cefnogwyr - mannau bwyta - stondin y 'Sand Wedge' - brechdan bois y gorllewin, yfed (o goffi, i gwrw i siampên), llefydd i ymarfer eich swing.
Waeth ble oeddech chi ar y cwrs mi oedd "EUUUUUROPE" ag "OLE, OLE, OLE!" i'w glywed am filltiroedd.
Help technoleg
Ond be' am y golff ei hun? Nawr dyma alw am dacteg. Adre, mae'r fendith o gael môr o luniau'r camerâu wedi'u golygu'n gywrain yn berffaith ond wrth gwrs, un pâr o lygaid sy' ar gal tro 'ma. Dyma ni felly yn cymryd sedd ger y pedwerydd twll, gwylio'r chwaraewyr cynta - o Graeme McDowell i Rory McIlroy, yn chwarae'r twll yn fyw. Ond diolch i'r dechnoleg sydd yna, doedden ni ddim wedi'n hynysu. Roedd sylwebaeth fyw Radio Ryder Cup yn ein clustiau, sgrîn fawr gerllaw, ac ap ar y ffôn symudol.
Ond heb os, yr hyn roddodd y wefr orau - oedd clywed ambell i floedd yn hedfan draw o ochr arall y cwrs. Cadarnhad bod rhywun o dîm Ewrop, yn rhywle wedi llwyddo!
Y Ddraig ar dân
Dyma ni wedyn yn gwneud y penderfyniad gore un - cerdded draw tuag at y pedwerydd twll ar ddeg, a hynny wrth i bethe' boethi. Lle i eistedd yng nghanol y 'grandstand.' Golygfa berffaith felly o Rory McIlroy yn gorffen ei rownd drwy guro un o'i brif elynion Americanaidd - a hynny mewn steil. Ymhen dim, dyma hi'n dod yn glir ei bod yn debygol y byddan ni'n gwylio'r cymro, Jamie Donaldson yn cipio'r fuddugoliaeth o'n blaene ni.
Mi oedd y ddraig goch yn hedfan ymhlith baneri Ewrop a 'nghalon yn fy ngwddf. Ond er iddo fethu suddo'r bêl i ennill yn y fan a'r lle - mi roedd siawns arall.
Un peth amadani felly - ei ddilyn i'r twll nesa'. Roedden ni'n sefyll rhyw bum metr i ffwrdd wrth iddo gymryd yr ergyd ola' un. Y tawelwch yn llethol - a gallu miloedd o gefnogwyr i ymdawelu yn syfrdanol.
Sefyll, cymyd y swing, a'r bêl yn gorwedd fodfeddi yn unig o'r twll, yn berffaith. "Ergyd ore fy mywyd" - meddai. A'r lle yn ffrwydro. Cymro yn sicrhau buddugoliaeth yn ei ymddangosaid cyntaf ym mhrif achlysur y gamp. Am berfformiad.
Mae Donaldson nawr ymhlith y criw dethol o Gymry - Dai Rees, Brian Huggett, Phil Price ac Ian Woosnam - sydd wedi chwarae rhan mor allweddol ym muddugoliaethau Ewrop ar hyd y blynyddoedd.
Yr Americanwr Mark Twain ddywedodd am y gamp: "Golf is a good walk spoiled".
Un peth allai'ch sicrhau chi felly - nid taith gerdded ddiflas mohoni. Ewch allan am swing. Chewch chi mo'ch siomi.