Parthau .cymru a .wales yn mynd yn fyw

  • Cyhoeddwyd
Parthau newydd .cymru a .walesFfynhonnell y llun, Nominet
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y parthau newydd .cymru a .wales ar gael i bawb erbyn 1 Mawrth, 2015

Fe fydd cyfeiriadau ar y we sy'n gorffen gyda .cymru a .wales yn mynd yn fyw ddydd Mawrth wedi blynyddoedd o ymgyrchu am barth Cymreig.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, y prif bleidiau gwleidyddol, nifer o bapurau newydd Cymreig, Eisteddfod yr Urdd a chlwb rygbi'r Scarlets ymhlith y cyntaf i fabwysiadu'r parthau newydd.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler y bydd hyn yn cynyddu "adnabyddiaeth brand" i gwmnïau o Gymru.

Bydd y cyfle i gael enw newydd yn cael ei ymestyn i holl fusnesau Cymru ym mis Tachwedd, ac yna i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2015.

Bydd parthau .cymru a .wales yn cael eu lansio yn y Senedd am 18:00 ddydd Mawrth, 30 Medi.

Dywedodd cyn seren rygbi Cymru Ieuan Evans, sy'n gadeirydd grŵp cynghori Cymru i gwmni Nominet: "Mae heddiw'n ddechrau oes newydd i Gymru yn y byd digidol.

"Mae'r grŵp cyntaf o wefannau sy'n mynd yn fyw heddiw yn nodi dechrau yn unig i'r fenter gyffrous yma i Gymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Nominet bod disgwyl i fwyafrif o sefydliadau gadw'u cyfeiriadau .co.uk presennol yn ystod y broses o sefydlu'r enwau newydd, ond y byddai hynny'n amrywio ymysg y defnyddwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol