Babi wedi marw yn Nhreffynnon
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i farwolaeth babi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn y dref am 01:16 fore dydd Mawrth wedi iddyn nhw gael gwybod fod plentyn yn wael.
Cafodd y babi ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ond roedd wedi marw.
Er bod yr heddlu'n dweud nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, does dim esboniad hyd yma.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol