Canolfan Cywain ar ei newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Cywain

Bydd Canolfan Cywain y Bala yn ailagor yn yr Hydref gan deulu lleol sydd yn sefydlu busnes newydd yno.

Bwriad Toby a Stephanie Hickish yw agor canolfan Gorwelion yn yr Hydref.

Agorwyd y ganolfan wreiddiol yn 2008 wedi dros £3.8 miliwn o fuddsoddiad gan lywodraeth Cymru.

Dair mlynedd yn ddiweddarach fe gaeodd y safle ac mae wedi bod yn wag ers hynny.

Bydd Toby a'i wraig yn agor caffi, siop a gerddi ar y safle. Mae gan y ddau gynlluniau i ddatblygu gwasanaeth prydau nos, arlwyo priodasau a pharc chwarae meddal i blant hefyd.

'Lleoliad anhygoel'

Dywedodd Toby, "Fe benderfynom ni ar Cywain am ein bod ni eisiau adfywio'r ganolfan wreiddiol. Mae mewn cyflwr gwych mewn lleoliad anhygoel. Mae sgôp o adeiladau da yno."

Daeth mwyafrif arian buddsoddiad gwreiddiol y ganolfan o Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) gyda chyfraniad llai sylweddol yn dod o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Bu Toby Hickish ar bwyllgor gwreiddiol Canolfan Cywain, "Roedd y syniad gwreiddiol yn un da ond aeth yr holl beth ar goll yn rhywle. Doedd dim diddordeb gan y cyhoedd yn y fenter."

Ychwanegodd Stephanie Hickish, "Mae twr o ddiddordeb lleol mewn ailagor y ganolfan. Mae'r mater o gau Cywain yn un sensitif a'n bwriad ni yw gwneud rhywbeth gyda'r adeilad segur."

Ni fydd mwy o arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi i ailagor y safle ac fel rhan o'r cytundeb newydd bydd y gwaith celf gwreiddiol ar arddangos i'r cyhoedd.