Arestio llanc 15 oed wedi lladrad honedig
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio bachgen 15 oed ar amheuaeth o ladrata yn dilyn digwyddiad yn Cilá , ar gyrion Abertawe.
Cafodd swyddogion eu galw i dŷ yn Christopher Drive tua 10.30 ddydd Llun, ble cafwyd hyd i ddynes 93 oed ar y llawr.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, ble mae hi mewn cyflwr difrifol.
Fe wnaeth plismyn arestio bachgen 15 oed ddydd Mawrth ac mae'n cael ei holi yng ngorsaf heddlu Abertawe.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "Mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau ac rydym mewn cysylltiad gyda theulu'r ddioddefwraig ar adeg sy'n amlwg yn bryderus iddyn nhw."
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol