Cael gwared ar ddisgiau treth
- Published
O ddydd Mercher 1 Hydref, gall gyrwyr rwygo eu disgiau treth gan fod system electronig newydd yn disodli'r disgiau papur.
Yn lle hynny, bydd bas ddata electronig o geir â threthi ffordd yn cadw cofnod o bwy sydd wedi talu.
Er bod y newid yma wedi bod ar y gweill ers peth amser, canfu arolwg diweddar gan gymdeithas moduro'r RAC nad oes gan dros hanner y wlad unrhyw syniad am y system newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asinatnaeth Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA): "Nid oes rhaid i yrwyr wneud unrhyw beth, os ydych yn dymuno, gallwch dynnu eich disg dreth bapur oddi ar ffenest flaen y car.
"Bydd eich treth bresennol yn parhau'n ddilys tan y dyddiad fydd yn dod i ben, a phryd hynny gallwch ei adnewyddu gan ddefnyddio'r system newydd.
"Y gobaith yw fydd y DVLA yn gallu gwneud arbedion ariannol yn sgil y newid, wrth arbed costau argraffu ac anfon y disgiau i yrrwyr."
I'r rhai fydd ddim yn talu'r dreth, gallant wynebu dirwy o hyd at £ 1,000.
Mae nifer o gamerâu awtomatig sy'n gallu adnabod rhifau ceir wedi eu gosod ar hyd ffyrdd y DU, a byddant yn gallu dal y rhai nad ydynt wedi talu.
Yn ogystal, bydd yr heddlu yn gallu edrych ar y rhifau cofrestru drwy eu system Gyfrifiadur Cenedlaethol.