Cwest Timothy Cowen: Teulu yn galw am atebion

  • Cyhoeddwyd
Timothy CowenFfynhonnell y llun, Picasa

Mae brawd dyn anabl bu farw yn dilyn llawdriniaeth wedi dweud wrth gwest na ddylai'r farwolaeth erioed fod wedi digwydd.

Bu farw Timothy Cowen, 51 oed, yn dilyn llawdriniaeth ar bledren y bustl yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ym mis Mai'r llynedd.

Clywodd y cwest yn Yr Wyddgrug bod diffyg cyfathrebu wedi bod ynglŷn â'i ofal.

Dywedodd y crwner, wrth gofnodi rheithfarn naratif, bod gwersi wedi eu dysgu, ond roedd yn parhau i bryderu am hyfforddiant.

Yn ôl John Gittins dylai pob aelod o staff sy'n gweithio gyda chleifion gydag anhawsterau dysgu dderbyn hyfforddiant gorfodol.

Roedd brawd Mr Cowen, Philip, wedi dweud wrth y cwest yn gynharach nad oedd y gwrandawiad "am feio unrhyw un, ond yn hytrach am ddarganfod beth ddigwyddodd".

Aeth ymlaen: "Ni ddylai'r fath beth fyth ddigwydd. Dylai bod trefniadau yn eu lle a'u bod yn cael eu dilyn."

'Sicrhau a chynnal safonau'

Wrth ymateb i'r ffaith bod arsylwad Mr Cowen wedi ei wneud am 08:00yb ar y dydd y cafodd ei ryddhau o'r ysbyty, dywedodd y nyrs Janet Edwards na ddylai hynny fod wedi digwydd ac y dylai arsylwadau fod wedi digwydd yn fwy rheolaidd.

Ond dywedodd bod gwelliannau wedi eu gwneud ers ei farwolaeth, a bod archwiliadau di-rybudd yn cael eu cynnal.

Wedi'r gwrandawiad ymddiheurodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am "y gwallau clinigol a gwallau mewn gwasanaeth yn ystod cyfnod Mr Cowen yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2013."

Ychwanegodd Angela Hopkins, y cyfarwyddwr gweithredol dros nyrsio a bydwreigiaeth: "Cafwyd ymchwiliad manwl, gyda chyfle i'r teulu chwarae rhan, a chafodd cynllun gweithredu trwyadl a rhestr o argymhellion eu datblygu.

"Roedd yr argymhellion yn cynnwys hyfforddiant parhaol ar gyfer staff er mwyn sicrhau a chynnal safonau a bydd hyn yn cael ei fonitro'n ofalus."