Cyhuddo llanc o ladrata wedi i bensiynwraig gael ei hanafu
- Published
Mae'r heddlu wedi cyhuddo llanc 15 oed o ladrata, wedi digwyddiad yn Abertawe, pan gafodd dynes 93 oed ei hanafu'n ddifrifol.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ ar St Christopher Drive, Cilá, am 10:30 fore Llun.
Fe gafodd y ddynes oedrannus ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, lle mae hi mewn cyflwr difrifol iawn.
Wedi i'r heddlu ddechrau ymchwilio i'r digwyddiad, daeth yn amlwg fod 'na ladrad wedi bod yn y tŷ, a chafodd llanc 15 oed ei arestio ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i'r llanc fynd o flaen ynadon yn Abertawe fore dydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Medi 2014
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol