Cameron: Rhyddhad wedi'r refferendwm
- Cyhoeddwyd

Yn ei araith i gynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham, mae David Cameron wedi bod yn siarad am ei rhyddhad na chafwyd pleidlais Ie yn refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Wrth amlinellu ei gynlluniau cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, addawodd hefyd y byddai'n gwarchod gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dywedodd hefyd y bydd y gostwng trethi mewn mwy nag un ffordd i "bobl sy'n gweithio'n galed", ond fod hynny'n ddibynnol ar glirio'r ddyled gyhoeddus.
'Pedair cenedl - un undeb'
Dechreuodd Mr Cameron ei araith trwy ddweud: "Rwyf mor falch i sefyll yma fel prif weinidog pedair cenedl mewn un undeb - y Deyrnas Unedig.
"Yr wythnos o ansicrwydd cyn y refferendwm oedd un o'r mwya' nerfus yn fy mywyd... ond mae Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn unedig ac fe allwn ni gyd fod yn falch o hynny."
Aeth ymlaen i son am y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac gan dalu teyrnged i'r Ysgrifennydd Tramor William Hague, ond ychwanegodd fod ganddo un dasg arall iddo - sef dod â thegwch i gyfansoddiad y DU.
Fe wnaeth addewidion "i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau eraill - rydych yn gofyn 'os yw'r Alban yn cael gwario ar bethau fel iechyd ac addysg, pam na fedrwn ni?'".
Dywedodd y byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau pleidleisiau Lloegr i ddeddfau Lloegr.
Dadansoddiad Bethan Lewis o Uned Wleidyddol BBC Cymru
Efallai byddai disgwyl iddo fod wedi son yn fwy helaeth am ddatganoli yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Ond roedd hon yn araith oedd yn canolbwyntio ar faterion bara menyn gyda'i lygaid yn amlwg wedi eu hoelio ar yr etholiad cyffredinol fis Mai nesaf.
Yn agos at ddechrau ei araith dywedodd ei fod yn falch o fod yn sefyll yno fel Prif Weinidog pedair cenedl mewn un undeb. Roedd 'na addewid hefyd y byddai'n sicrhau tegwch cyfansoddiadol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Ond tu hwnt i'r slogan 'Pleidleisiau Seisnig i Gyfreithiau Seisnig' roedd y manylion yn brin.
I bleidleiswyr yng Nghymru fel yng ngweddill Prydain, y cyhoeddiadau am dorri trethi fydd yn gwneud yr argraff mwyaf - er bod 'cwestiynau i'w hateb ynglŷn â'r amserlen, a sut mae'n bwriadu talu am dynnu rhai allan o dreth a thorri'r baich ar eraill.
Fe fyddai'r addewid i amddiffyn gwariant ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn golygu diogelu ffrwd bwysig o arian i goffrau Cymru trwy Fformiwla Barnett.
Ond daeth ymrwymiad hefyd i dorri £25 biliwn o wariant Llywodraeth Prydain dros ddwy flynedd gynta'r Senedd nesa os yw'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn gorfod profi peth o'r boen.
Trethi
Bu llawer o drafod trethi ganddo hefyd, a dywedodd y byddai'r llywodraeth Geidwadol nesaf yn sicrhau'r trethi corfforaethol isaf ymysg gwledydd yr G20 - "llai na Japan, llai na'r Almaen a llai na'r UDA".
Fe soniodd hefyd am nifer o fesurau fydd yn cael effaith ar gyllid Cymru yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Datgelodd ei fwriad i godi'r trothwy pan mae pobl yn dechrau talu treth incwm o £10,000 i £12,500, a hefyd codi'r trothwy pan mae pobl yn dechrau talu'r raddfa uwch o 40% o dreth incwm o £41,900 i £50,000 - hynny i gyd yn oes y llywodraeth nesaf os fydd y Ceidwadwyr yn ennill.
Ond fe fydd Cymru ar ei hennill hefyd os fydd cynlluniau Mr Cameron am y gwasanaeth iechyd yn cael eu gwireddu.
Dywedodd y byddai'n clustnodi a gwarchod gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac yn buddsoddi mwy ynddo.
Byddai hynny'n arwain at gynyddu'r arian ddaw i Gymru drwy fformiwla Barnett.
Gorffennodd drwy ddiystyru bygythiad plaid UKIP, gan ddweud: "Dim ond dau ddewis sydd yna ar 7 Mai, 2015 {Etholiad Cyffredinol} - ni neu Llafur.
"Fe fydd pleidlais dros UKIP yn bleidlais dros Lafur."
Dim ond unwaith y gwnaeth David Cameron grybwyll Cymru yn uniongyrchol a hynny wrth son am y cyfansoddiad..
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2014
- Cyhoeddwyd22 Medi 2014
- Cyhoeddwyd20 Medi 2014