Carfan Cymru: Dim Ramsey nac Allen
- Cyhoeddwyd

Wrth gyhoeddi ei garfan ar gyfer dwy gêm ragbrofol yng nghystadleuaeth Euro 2016, mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Aaron Ramsey na Joe Allen yn medru chwarae oherwydd anafiadau.
Cadarnhaodd Chris Coleman mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher na fyddai'r ddau ar gael i'r gemau yn erbyn Bosnia-Hercegovina ar 10 Hydref a Cyprus dridiau'n ddiweddarach.
Anafodd Ramsey ei goes wrth wynebu Tottenham Hotspur yn yr Uwch Gynghrair dros y penwythnos, ac mae Allen wedi cael llawdriniaeth.
Wrth gyhoeddi'r garfan dywedodd Coleman: "Rydym wedi arfer bod heb y rhai mae pawb yn son amdanyn nhw fel y prif chwaraewyr.
"Dydw i erioed wedi eu cael nhw i gyd ar gael gyda'i gilydd, ac rydym heb David Vaughan ac Andy Crofts felly mae pedwar ar goll o ganol cae.
"Mae'n siomedig pan ydych chi'n colli chwaraewyr o safon Aaron a Joe, ond mae gen i bob hyder yn y bechgyn fydd yna i ddod i mewn a llenwi'r bwlch i ni.
"Rwy'n dal yn gyffrous oherwydd mae'r ddwy gêm yma'n rhai anferthol i ni."
Dyw chwe aelod o'r garfan heb ennill cap llawn hyd yma, sef Lee Evans, Tom Lawrence, Kyle Letheren, Owain Fôn Williams, Jake Taylor a Rhoys Wiggins.
Bydd y ddwy gêm yn cael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Carfan Cymru v. Bosnia-Hercegovina a Cyprus :-
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Kyle Letheren (Dundee), Owain Fôn Williams (Tranmere);
James Chester (Hull), James Collins (West Ham), Ben Davies (Tottenham), Gareth Dummett (Newcastle), Danny Gabbidon (Caerdydd), Chris Gunter (Reading), Sam Ricketts (Wolves), Neil Taylor (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton), Ashley Williams (Abertawe);
David Cotterill (Birmingham), David Edwards (Wolves), Lee Evans (Wolves), Emyr Huws (Wigan), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Crystal Palace);
Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Tom Lawrence (Caerlyr), Hal Robson-Kanu (Reading), Jake Taylor (Reading), George Williams (Fulham), Jonathan Williams (Crystal Palace).
Straeon perthnasol
- 30 Medi 2014
- 29 Medi 2014
- 18 Medi 2014
- 10 Medi 2014
- 9 Medi 2014