Diarddel nyrsys am 'fethiannau brawychus'
- Cyhoeddwyd
Mae dwy nyrs a oedd yn gweithio mewn cartref gofal yn Abertyleri wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr nyrsio gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Daeth panel disgyblu i'r casgliad fod methiannau Susan Reynolds a Heather Hayward "yn frawychus" ac wedi arwain at "niwed y gellid fod wedi ei osgoi i gleifion bregus" rhwng 2002 a 2007.
Roedd Reynolds a Hayward yn rheolwr a'r dirprwy reolwr cartref nyrsio Grosvenor yn Abertyleri ar y pryd.
Fe ganfod y panel fod y ddwy wedi methu â gweithredu cynlluniau gofal priodol rhwng 2002 a 2007, wedi methu a sicrhau bod un claf wedi derbyn digon o faeth er gwaethaf rhybuddion iechyd, ac wedi methu sicrhau fod clwyfau yn cael eu trin.
Disgrifiodd y panel disgyblu'r achos fel "catalog o fethiannau llwyr tuag at gleifion hynod fregus".
Daeth y panel i'r casgliad fod bod Reynolds a Hayward wedi methu cyrraedd y safon ddisgwyliedig ar gyfer nyrsys ac y dylid eu tynnu oddi ar y gofrestr nyrsio.
Dywedodd cadeirydd y panel, Michael Cann fod y dystiolaeth ffotograffig welodd y panel yn "erchyll" a bod methiannau'r nyrsys wedi bod "anghydnaws".