Cyllideb: 'Risg o wasanaethau yn methu'

Dwylo
Image caption Mae rhybuddion y gall y toriadau effeithio ar bobl fregus

Mae perygl i'n gwasanaethau cyhoeddus "fethu'n llwyr" yn wyneb y toriadau pellach o £190 miliwn i'w cyllidebau gafodd eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft gan y gweinidog cyllid Jane Hutt ddydd Mawrth.

Dyna yw rhybudd llefarydd cyllid y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol y wlad, y Cynghorydd Aaron Shotton.

Mae'r toriad o £190 miliwn yn ychwanegol i'r toriad o £182 miliwn gafodd ei weithredu'r flwyddyn ddiwethaf.

Mae hyn yn golygu bydd cyllidebau cynghorau £17 miliwn yn llai ar gyfartaledd yn 2014/15 o'i gymharu â 2012/13, ond mae rhai wedi cael eu taro'n llawer caletach nag eraill.

Yn ôl Mr Shotton, o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), dyma sy'n debygol o ddigwydd i gynghorau Lloegr ac mae'r toriadau diweddaraf yma yng Nghymru yn golygu bod cynghorau yma yn wynebu'r un risg.

Felly pa fath o sefyllfa all ddatblygu?

"Mi fydd diswyddiadau yn anffodus yn anorfod ac rwy'n ofni am ddyfodol gwasanaethau sy'n darparu cefnogaeth hanfodol i bobl yn ein cymdeithas," meddai Mr Shotton.

Mae'n credu bod angen "asesiad trylwyr" er mwyn darganfod os yw'r ffordd o ariannu cynghorau yn addas at ei ddiben.

Un arall sy'n rhannu ei bryderon yw'r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd sydd hefyd yn llefarydd ar ran y WLGA.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud pan fu Garry Owen yn ei holi ar Taro'r Post ar Radio Cymru:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dyfed Edwards yn siarad gyda Garry Owen

Amser i uno?

Un ffordd o arbed arian sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd yw uno cynghorau, gyda llawer yn credu y byddai hyn yn arwain at system fwy effeithlon gyda llai o fiwrocratiaeth.

Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth Comisiwn Williams argymell torri nifer y cynghorau o'r 22 presennol i 10, 11 neu 12, gan gynnig sawl ffordd wahanol o wneud hyn.

Image caption Mae Mr Andrews yn cael ei ystyried i fod yn wleidydd sy'n gallu gwneud i bethau ddigwydd

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, Leighton Andrews, wedi dweud ei fod yn benderfynol o weld hyn yn digwydd, ond mae nifer o gynghorau yn gwrthwynebu gan gynnwys Cyngor Môn (gyda Gwynedd) a Chyngor Wrecsam (gyda Sir y Fflint).

'Dim arian'

Un o'r cynghorau sy'n gorfod gwneud toriadau mawr i'w gwasanaethau yw Rhondda Cynon Taf, ac fe ddywedodd yr aelod cabinet Geraint Hopkin wrth BBC Cymru mai nawr yw'r amser anghywir i feddwl am uno.

"Ni yn hapus iawn i drafod cyfuno gyda'r cynghorau wrth gwrs, fel mae'r Comisiwn Williams yn dweud mynd gyda Merthyr, wrth gwrs rydym yn trafod y peth efo nhw ond mae yna rhai cynghorau eraill ni ishe cal trafodaeth gyda," meddai.

"Y peth mawr i ni yw rhaid cal mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am bethau - mi fydd yn costio lot i gyfuno yn y tymor byr ond dydyn ni ddim ishe torri mwy i dalu am y cyfuno.

"Dwi'n meddwl bydd e'n digwydd yn y dyfodol gyda ni neu heb ni a dyna pam ni yn trafod y peth nawr, ond fi'n dod 'nôl i fater dwfn iawn i ni does dim arian da ni ar hyn o bryd i neud y cyfuno costio gyda systemau IT a symud y staff a phopeth fel hyn a does neb wedi penderfynu eto sut ydan ni'n gallu talu am y peth."

Straeon perthnasol