M4: Cyn weinidogion yn beirniadu ffordd liniaru newydd

  • Cyhoeddwyd
M4 near Newport
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyfeillion y Ddaear yn gobeithio herio penderfyniad Llywodraeth Cymru yn y llysoedd

Mae dau o gyn weinidogion wedi beirniadu cynlluniau llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd.

Fe wnaeth y ddau aelod Llafur, Alun Davies a John Griffiths, wneud eu sylwadau wrth gyfrannu i drafodaeth ar lawr y cynulliad.

Plaid Cymru oedd wedi galw am y drafodaeth.

Dywedodd Mr Davies fod llywodraeth Cymru wedi cymryd y "penderfyniad anghywir" a galwodd am ailedrych ar y cynllun.

Mr Davies oedd y cyn weinidog gyda chyfrifoldeb am adnoddau naturiol, ac yn gyfrifol am bolisi'r amgylchedd. Cafodd ei ddiswyddo ym mis Gorffennaf.

'Angen cryn ystyriaeth'

"Dydw i ddim yn ôl greddf yn gwrthwynebu ffyrdd na chwaith yn rhywun sy'n credu na ddylid codi ffyrdd newydd.

"Ond rwy'n credu y dylid gwneud penderfyniadau o'r fath ar ôl cryn ystyriaeth ac yn agored, o ganlyniad i drafodaethau sy'n digwydd o fewn y pleidiau unigol, ond hefyd o ran trafodaethau sy'n digwydd yn y lle hwn, ac o fewn pwyllgorau'r lle hwn."

Disgrifiad o’r llun,
Dywed Alun Davies nad oedd y wybodaeth ar gael i gefnogi'r cynlluniau

Ychwanegodd fod llywodraeth Cymru wedi disgrifio lefelau gwlypdiroedd Gwent fel lle angenrheidiol ar gyfer symudiadau bywyd gwyllt.

'Cynlluniau newidiol'

"Petaen ni am godi traffordd chwe lôn ar yr ardal bwysig hon - yna mae'n rhaid i ni fod yn gwbl glir fod gennym ni'r wybodaeth ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir. Dw i ddim yn sicr ynglŷn â hyn.

Fe wnaeth Mr Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd, rybuddio y byddai'r cynlluniau yn newidiol i'r amgylchedd.

Roedd ef hefyd yn bryderus am opsiynau eraill mae rhai ACau yn eu cefnogi.

Dywedodd fod angen i lywodraeth Cymru edrych unwaith eto ar gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig creu Metro De Cymru.

Yn y gorffennol mae pwyllgor o aelodau'r cynulliad wedi mynegi amheuon am gynlluniau llywodraeth Cymru i liniaru traffig yn ardal Casnewydd.