Cartrefi gofal: Pryder diffyg maeth
- Cyhoeddwyd

Mae hyd at un ym mhob tri o bobl mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg maeth, yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Dywedodd Sarah Rochira wrth BBC Cymru fod y sefyllfa yn "annerbyniol".
Daeth ei sylwadau ar ôl archwiliad o 100 o gartrefi gofal.
Galwodd am fwy o ffocws ar ddarparu prydau oedd yn faethlon, a hefyd bod yna ddewis ar gael i bobl fregus.
Cyfeiriodd at lwyddiannau cynllun peilot yn Nhorfaen.
Roedd swyddogion maeth o'r bwrdd iechyd a swyddogion safonau masnach wedi gweithio ar y cyd er mwyn darparu bwydlen addas.
Diffyg maeth
Fe wnaeth Ms Rochiar ei sylwadau wrth i'w swyddfa baratoi i gyhoeddi adroddiad ar yr arolwg o 100 o gartrefi gofal.
Roedd yr arolwg yn cynnwys ymweliadau heb rybudd ar y cartrefi gofal.
"Mae'n annerbyniol mewn rhai rhannau o Gymru fod pobl hŷn yn dioddef o ddiffyg maeth, a hynny yn y llefydd maen nhw'n ystyried yn gartref.
"Yn y llefydd hyn mae ganddyn nhw'r hawl i ddisgwyl gofal a chefnogaeth i'w cadw mor heini ac iach â phosib," meddai.
"Dwi ddim yn credu fod yna ddigon o ffocws wedi bod ar y pwnc, a dwi ddim yn credu ein bod yn deall pa mor bwysig yw hyn.
"Dyna pam rwyf yn credu fod y prosiect yn Nhorfaen mor bwysig, a dwi ddim yn deall pam nad yw hyn yn batrwm sy'n bodoli ledled Cymru.
"Pe na bai ni'n cael hyn yn gywir, bydd yna fwy o bobl eiddil a bydd mwy o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty.
"Dydi hynny ddim yn beth da i bobl hyn a dyw e ddim yn beth da i'r coffrau cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2014
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2014