Trafod cynlluniau i gau pum ysgol

  • Cyhoeddwyd
Protest yn erbyn cau'r ysgolion
Disgrifiad o’r llun,
Cynhaliodd rhieni brotest cyn cyfarfod cabinet Port Talbot ble y penderfynodd cynghorwyr i gymeradwyo cynlluniau ymgynghori ffurfiol.

Mae cynghorwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi bod yn trafod cynlluniau all olygu cau pum ysgol gynradd fechan.

Cynhaliodd rhieni brotest cyn cyfarfod cabinet Port Talbot ble y penderfynodd cynghorwyr i gymeradwyo cynlluniau ymgynghori ffurfiol.

Mae arolwg, sydd wedi edrych ar faterion megis gormod o lefydd gwag mewn ysgolion a chynnal a chadw ysgolion, wedi argymell cau'r ysgolion.

Mae'r arolwg hefyd wedi ystyried a fyddai ardaloedd yn colli eu hunaniaeth drwy golli'r ysgol.

'Ysgol berffaith'

Yn ôl yr adroddiad dim ond 55 o ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Gynradd Bryn ac mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw gwerth £475,000 ar adeilad yr ysgol.

Mae'r cyngor wedi amcangyfrif y gallai arbed £5100,000 dros bum mlynedd pe bai disgyblion yn cael eu trosglwyddo i ysgol fwy, Ysgol Gynradd Cwmafan, sydd 2.6 milltir i ffwrdd.

Ond mae'r adroddiad yn cyfaddef y byddai hyn yn achosi cynnydd mewn amseroedd teithio a 'cholli hunaniaeth yng nghymuned yr ysgol o ganlyniad i gau'r ysgol'.

Mae merch bedair oed Richard Thomas yn mynychu Ysgol Gynradd Tonmawr, a dywedodd bod yr holl gymuned wedi siomi gyda'r cynnig, gan ddweud ei bod hi'n 'ysgol berffaith'.

Yr ysgolion fydd yn cael eu heffeithio - ac i ble y bydd y disgyblion yn mynd:

Ysgol Gynradd Bryn, Port Talbot - 51% o lefydd yn wag - byddai disgyblion yn mynd i Ysgol Gynradd Cwmafan.

Ysgol Gynradd Clun, Castell-nedd - 53% o lefydd yn wag - byddai disgyblion yn mynd i Ysgol Gynradd Ynysfach.

Ysgol Gynradd Pontrhydyfen, Cwm Afan - 21% o lefydd yn wag - byddai disgyblion yn mynd i Ysgol Gynradd Cwmafan.

Ysgol Gynradd Tonmawr, Cwm Afan - 46% o lefydd yn wag - byddai disgyblion yn mynd i Ysgol Gynradd Crynallt.

Ysgol Gynradd Gymraeg, Cwmgors - 37% o lefydd gwag - byddai disgyblion yn mynd i Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun Cae Gurwen.

Ffynhonnell: Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y broses ymgynghori yn cychwyn yn ddiweddarach yn y mis a bydd yn dod i ben ar 16 Ionawr 2015.

Byddai'r ysgolion yn cau fis Medi nesaf.

Yn y cyfamser, mae'r cyngor wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer uwch-ysgol gwerth £40 miliwn ym Mae Baglan. Bydd yr ysgolion yn darparu addysg ar gyfer 1,500 o ddisgyblion cynradd, uwchradd a disgyblion gydag anghenion arbennig.

Bydd yr ysgol newydd yn cymryd lle Ysgol Gyfun Gymunedol Cwrt Sart, Ysgol Gyfun Glan Afan, Ysgol Gyfun Traethmelyn ac Ysgol Gynradd Traethmelyn.