Trên wedi dod oddi ar y cledrau yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na oedi ar drenau yn ne-ddwyrain Cymru wedi i drên ddod oddi ar y cledrau yn Y Barri yn oriau mân bore Iau.

Trên nwyddau oedd yn rhan o'r digwyddiad am oddeutu 2:30am.

Fe ddywedodd Trenau Arriva Cymru na all trenau deithio i unrhyw gyfeiriad yn yr ardal, ac mae gwasanaeth bws dros dro ar gael rhwng Y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr.

Yn ogystal, mae disgwyl oedi mawr ar wasanaethau rhwng Caerdydd, Pontypridd a Rhymni, ac o Ferthyr Tudful.

Yn ôl llefarydd ar ran Network Rail, fe ddaeth dau gerbyd ôl y trên oddi ar y cledrau, gan achosi difrod i'r rheilffordd.

Mae disgwyl i'r oedi barhau gydol y dydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol